Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR OENIG. 41 WILLIAM JAY. " Y doethion a ddysgleiriant fel dysgleirdeb y fFurfafen, a'r rhai a droant lawcr i gyfiawnder, a fyddant fel y ser byth yn dragywydd." Dyma dystiolaeth y gyfrol ysbrydoledig, ac y mae holl hanesiaeth yn cadarnhau ei gwirionedd. Mae pawb yn dymuno parhad eu coffad- wriaeth. Ac y mae rhai yn enill clod a chanmoliaeth uchel yn eu bywyd, fel rìysgawdwyr, beirdd, gwladwyr, neu ryfelwyr, fel wedi iddynt farw "y garcg a lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed." Adeiledir colofnau gorwych er coffadwriaeth am danynt. Ond i ddangos mai "geirwir yw üuw," er ymdrech perthyn- asau a chyíbillion, er adeiladau a chofgoloíhau, "enw yr annuwiol a bydra; ond y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth." " Y mac rhagor rhwng scren a seren mewn gogoniant," felly y mac graddau yn enwogrwydd coffadwriaethol y cyfiawnion. Ond yn bresenol cyfeiriwn eich llygaid at seren o'r "graddau cyntaf." Nid gormodedd yrìyw dweyrì hyny am ddyn enillodd ac a gadwodd enwog- rwydd digyffelyb am yr ysbaid maith o G8 o fiynyddoedd —oddiar pan yr esgynorìd y pwlpud yn IGeg oed, hycì y pryd y disgynodd i'r bedd yn 85 ocd—enwogrwydd a gydnabyddid gan bawb yn ddiwahaniaeth. gwreng a boneddig, heu ac ieuainc, dysgedig ac annysgedig—ie, enwogrwydd a gydnabyddid gan enwogion, nid y mwyaf j)arod, fel y dywedir, i gydnabod eu gilydd. Ond y maent hwy yn dwyn tystiolaeth iddo ef—Wilber- forcc, Beclcford, Hannah Moorc, Hall, Chalmers, a Foster. yr hwn a'i gosorìodd i sefyll ar ben y pinacl, heb neb vn agos ato, pan ei galwodd yn "(lywysGg y prcg- ethwyr." Gan ein bod yn credu y bydd ychydig o hanes y fath wr yn ddcrbyniol gan ddarllenwyr ieuainc yr Oenig, rhoddwn i chwi ychydig loffion wedi eu casglu o hanes ei fywyd, yr hwn a ysgrifenwyd gan mwyaf yanddo eí' ei hun. Anogwn bawb i fcddu y llyfr hwn i'r dyben i'w ddarllen oll, trwy ei brynu, er ei fod yn llyfr drud Awst, 185G. 4