Skip to main content

YS OENIG. DYLANWAD FFYDD AR Y CYMERIAD MEDD- YLIOL. Mewn grym a gorwychder meddwl, nid yw y philoso- phyddion paganaidd wedi cael eu trechu gan neb dynion anysbrydoledig; ac nid yw celfyddiaeth yr oesau diweddaraf yn gallu taflu dros ei cherfwaith y pryd- ferthwch a erys hyd yn awr ar adfeilion m!alurie<lig Groeg. Ffaith nodedig yn gysylltiadol a phaganiaeth Groeg a Ilhufain yw, i ymadferthoedd dyn ymddyrchafu yn uwch, gydag un eithriad, dan ei theyrnasiad, nag a wnaeth mewn un man arall. Edrychir arnynt yn gewri hyd y dydd hwn, o ran eu galluoedd dealltwriaethol. Os mynwch gael eich swyno gan hyawdledd na fydd byth marw, eisteddwch wrth draed y meistri fuont byw cyn i Gristionogaeth gael ei hesbonio gan Paul o flaea^i senedd Athen, a'i phregethu yn Rhufain yn nhëúŵr Cesar. Pwysig yw y nodiad hwn; ac y mae yn deil- wng o ymchwiliad o ba le y tarddodd y rhagoriaeth feddyliol hon—a oedd rhywbeth yn y gyfundrefn bagan- aidd oedd yn grymusu y galluoedd dynol, neu a oes rhywbeth yn y Gristionogol yn afrwyddo eu dadblyg- iad ? O herwydd os na allwn ddangos fod rhywbetíí ynddi sydd yn rhagori ar yr hen ffurf a fodplai yn* Groeg, pa fodd y gallwn arganmol Cristionogaeth fel datguddiad oddiwrth Dduw, wedi ei haddasu ìholl ym- I adferthoedd dyn ? !, Caniataer i ni nodi ychydîg o breswylwyr byd anwel-,; edig yr hynafiaid. Trigai duwies yn mhob ogof, a, cherllaw bob fpynon. Yr oedd ganddynt ysbrydion a lywient aradr yr hwsmon, a amddiffynent ei ddeadell- ' oedd, ac a'u gwylient rhag Ilygad yr un drwg. Medd-: . ent hefyd rai a ofalent am y grawn ieuanc^ 1 noddi ei j dywys, i'w gysgodi rhag yr awel lem, ac i effeithioli y , j gwlith, y gwlaw, a'r pelydryn. Clywent ysbryd yr j ystorm yn ymsymud ar y mynyddoedd, a diwreiddiai y coedydd â'i anadl nerthol; a chwareuai canig duwies y môr ar wyneb y dyfnder mawr. Tybient fod gan bob person ysbryd drwg a da yn bresenol gydag ef drwy ei Gorfh. 1856. 1