Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GALETT YR YSBRYD. 401 GALLU YR YSBRYD. GAÎT Y PARCH. EDWABD MATTHEWS. "Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, mcdd Arglwydd y lluoedd." [Wele yn canlyn ychydig o sylwadau a wnaed ar y testun uchod gan y Pareh. Edward Mathews, Ewcni, Morganwg, y rhai a gymerwyd i lawr wrth eu gwrando. Maddeued y pregethwr os oes, rhy w gam yn cael ei wneyd â'r bregeth gan yr ysgrifenydd.] "'Nid trwy lu.' Y mae ifocl yn rhywfodd, ond nid trwy lu, ac nid trwy nerth. Y mae yr Arglwydd yn myned i egluro y weledigaeth i'r prophwyd. Yr oedd yr Iuddewon yn myned i adeiladu y deml. Gorchwyl mawr oedd buildo teml, yn enwedig i bobl mor dlodion a rhai'n—newydd ddod o Babilon, heb un geiniog o arian—yn droednoeth, coesnoeth; gorchwyl digynyg oedd i greaduriaid fel hyn i ymgymeryd ag ef, oedd adeiladu teml. Yr oedd Iesu Grist yn dyweyd y dylid considro llawer cyn ymgymeryd ag adeiladu tŷ neu fyned i ryfel â gelyn; yr oedd eisiau edrych a oedd y moddion yn ddigon i gyfarfod y draul, neu y llu yn ddigon cryf i gyfarfod â llu y gelyn; ond dyma antur- iaeth lawer mwy nag an o honynt, ac eto mae yr Ar- glwydd yn dyweyd nad oes dim eisiau gofalu dim am y moddion—'Nid trwy lu, ac nid trwy nerth.' "Yr oedd yr angel wedi bod gyda'r prophwyd o'r blaen, a dyma fe yn dychwelyd eto, fel pe buasai wedi gadael rhywbeth yn annghof heb ei däweyd wrtho; ac yr oedd y prophwyd wedi cysgu. 'Zechariah,' meddai'r artgel, 'beth a weli di?' 'Beth wela' i ? Fi wela' gan- wyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith llusern, a saith o bibellau i'r saith ìlusern oedd ar ei ben ef; a dwy oîewydden wrtho, y naill o'r tu deheu i'r badell, a'r llall o'r tu aswy.' 'Ond bèth yw hyn?' meddai'r angel. ' Wn i ddim beth rhagor na'i fod yn ganwyllbren—beth hefyd all e' fod?'—'Wel, dymayAY,' meddai'r angel—'Hyn yw gair yr Arglwydd at Zoro- babel—'Nid trwy lu, ac* nid trwy nerth. A welaist ti shvt beth erioed o'r blaen? A weli di y fath oleuni . 44 *'!