Skip to main content

SIESTCYN HAERI. 361 SIENCYN HARRI. TK AIL BAPYB,. Addawsom mewn rhifyn blaenorol ysgrifenu ychwaneg o hanes yr hen Batriarch uchod, mor gynted ag y delem o hyd iddo; erbyn hyn y mae genym ddysglaid fechan eto i'w rhoi ger bron ein darllenwyr. Diau y darllenir yr ystoriau difyr a ganlyn gyda blas gan bawb a adwaenent yr hen bregethwr diniwed; a diau genym na fyddant yn ddiflas i neb arall. Y mae yr hanes canlynol am ddechreuad ei grefydd o'i enau ei hun wedi ei roddi i ni gan gyfaill oedd yn ei wrando yn ei adrodd. Yr oedd yn pregethu ar ddydd gwaith mewn tý anedd yn Llansawel, Morganwg; cy- merodd ei destun o'r benod gyntaf o lyfr Ruth, a'r 20fed adnod,—"Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn a mi." " Eich sarfo chi'n right, yr henlances," meddai; "chi all'sech heidio myn'd o dre'." Cafodd oedfa hwylus iawn, ac yr oedd mewn tymher hapus wedi iddi fyned drosodd. Wedi i bawb fyned allan oddigerth dau neu dri, dech- reuodd siarad â hen chwaer a chyfeilles iddo, a eisteddai gyferbyn ag ef, yr hon oedd wedi ei mhagu ar yr un twyn ag yntau. "A wyt ti yn cofio, Magws," gofynai, "am fy hen gyfaill------?" (ni chawsom ei enw.) "Odw'n ddigon da," ebe Magws; "y mae wedi marw ys llawer dydd." "Ody, ody; ond mi gofiaf am dano byth, ac am y nos y daliwyd fi ac yntau yn Nghastellnedd; fe'n daìiwyd ni heb yn w'bod i ni, wel' di." "Wel, shwt y bu, Siencynbach? gadewch i ni gael tipyn o'r hanes," ebe Magws. "Yrwyfyncofio cystal ag am neithiwr am y nos- waith hono, merch i; yr oeddem wedi tynu plans rhyfedd yn y gwaith y diwrnod hwnw, ac wedi meddwl treulio noswaith lawen; ond wedi myned i'r dref, (Castellnedd,) a cherdded i fynu tua'i phen uchaf i ẃwilio anî y rhest o'r cwmpni, disgynodd y swn rhy- 41 A