Skip to main content

SIENCYN HAJBRI. ' 241 SIENCYN HARRI. "Ni roddaf ddiolch am ddyn sydd fel pawb." Tarawtd ni pan glywsom y frawddeg uchod, y dydd o'r blaen, yn dyf'od allan o enau un o'r rhai a garwn yn fwyaf ar y ddaear. Yr ydym ninau bob amser yn caru gweled dyn ar ei ben ei hun—un y gellir ei alw yn garacter—un fel efe ei hunan yn mhob peth, ac nid neb arall. Nid bob dydd y cyfarfyddir a'r cyfryw; ond pan ddeuir o hyd iddynt, y maent yn deilwng o sylw, ac yn werth eu dangos. Tebyg y gallwn resu Siencyn Harri yn mysg y dosbarth yma. A welwch yr hen wr byr, crwn, cyfan acw, yn sefyll ar lawr y capel, gyferbyn a'r pwlpud? Y mae yn gwisgo clôs penlin llwyd, a chot ddu helaeth o amgylch corph o gryn dipyn o drwch, er ei fod yn fyr. Y mae yn sefyll yn syth, a'i ddwylaw o'i ol, yn mhleth ar ei fain- gefn. Dacw ef yn taro y dôn—y mae ei lais mor rymus, peraidd, a soniarus, nes yw yn goglais pob calon sydd o fewn cyrhaedd i'w swn. Ỳ mae yn ymroi i ganú—i ddyblu eilwaith ac eilwaith, nes enyn tân, a phoethi yr holl gynulleidfa. Y mae neillduolrwydd yn perthyn i'r dyn yna; ac y mae yn hawdd deall hyny wrth ei olwg a'i holl ysgogiadau. Siencyn Harri ydyw. Nid ydym wedi gweled nac wedi clywed fod llinell wedi ei hysgrifenu o goffadwriaeth am yr hen batriarch duwiol a hynod hwn; ac nid oes genym ninau nemawr o'i hanes i'w roddi; ond yr ydym yn penderfynu an- rhegu ein cyfeillion a'r ychydig o'r helyntion ydym wedi eu cael. A byddwn yn dra diolchgar i bwy bynag a'n hanrhego ag yehwaneg o'i hanes; o herwydd bwriadwn gasglu ysgrif arall am dano erbyn rhifyn dyfodol. Y mae digon o ddefnyddiau i'w cael; a byddant yn fudd- iol a difyr i'w cadw, a'u cludö, i'r oes a ddel. Nid oes genym fawr o hanes dyddiau boreuol Siencyn. Yr oedd yn enedigol o Langatwg, yn ymyl CasteUnedd, Morganwg. Tori glo oedd yr alwedigaeth flaenaf fu yn ei dylyn. Cododd i fynu yn ddyn anystyriol ac annuw- iol. Yr oedd yn hofF o fynychu tafarnau—yn caru pob rhigymau masweddol, ac yn ddawnsiwr {"jigwr" ys 31 P fío- \%S