Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CARACTER JOSEPH. 201 CAHACTER JOSEPH. " A gawn ni \vr fel hwn ?"—Phaeaoh. "Gwell yw enw da nag enaint gwerthfawr—gwell nag aur, i'e, nag aur coeth lawer." Y mae yn well i'r dyn ei hunan i í'yw ac i farw. Y mae yn well i eraill—yn cael dylanwad gwell ar y byd. Y mae hanes y Joseph hwn yn dair mil a haner oed bellaeh; ond y mae ei enw da yn arogli mor beraidd heddyw ag un amser. Ateb- odd bywyd rhinweddol Joseph nid yn unig ddyben mawr iddo ei hunan, ond atebodd ddyben rnawr i'r byd. Y mae caracter dyn o bwys i'r byd—yn dylanwadu ar y cylch y bu mewn cysylltiad ag eí' am fiynyddau, ac oesau, nad oes neb ond Duw aìl gaufod ei ben draw. Edrychwch at eich cymeriadau! Y peth cyntaf sydd yn'tynu ein sylw yn hanes Joseph yw— Serch mawr ei dad ynddo. "Ac Israel oedd hoff- ach ganddo Joseph na'i holl feibion." Nid anhawdd y w rhoddi cyfrif am hyn. Cyntafanedig ei Rachcl ydoedd. Yr oedd ei í'am wedi costio pedair blynedd ar ddeg o lafur caied iddo. Yr oedd y bachgen yn "]ân o bryd, a theg yr olwg;" a thebyg fod arwyddion eglur ei fod yn llanc o ddoethineb mawr—yn un gobeithiol am rinwedd- au da a duwioldeb. Y mae gweled arwyddion fel hyn ar blant yn ddigon i dynu pawb i'w caru: a rhaid ei fod yn tynu serch ei rieni yn fawr dros ben. Dywedir hefyd ei fod ynfab ei henaint. Y mae rhieni yn gyffredin yn dangos mwy o hoffder tuag at y plant ieuangaf: a dy- wedir fod hen bobl yn ffolach am blant na neb. Ŷr oedd y cwbl wedi cydgyfarfod \n achos Joseph. Onder hyn, ni ddylasai Jacob wisgo ei serch yn siaced fraith am ei gefn, i gyffroi eiddigedd ei frodyr: diamheu mai tro ffol oedd hwn. Ond yn wir, gwaith anhawdd yw cuddio cariad; fe fyn ef ddyfod i'r golwg. Ac y mae yn anhawdd gwybod pa fodd y galiasai Jacob beidio dangos rhagonaeth cariad tuag at un oedd a chymaint o gymhelliadau i gariad ynddo. A pha ryfedd ei weled, pan ddygwyd siaced Joseph yn llawn gwaed ato, yn rbwygo ei ddillad, yn gwisgo sachiian, yn wylo yn hidl, Rhif. vi. * 26