Skip to main content

EIN GOHEBWYB a'n GOHEBIAETHAU. 161 EIN GOHEBWYR A'N GOHEBIAETHAU. Yb ydym wedi bwriadu ein Misolyn hwn i fod yn bob cefnogaeth i ddarllenwyr ae ysgrifenwyr ieuainc Cymru; eto nis gallwn gyhoeddi y cwbl a dderbyniwn; byddai hyny yn ben y ffordd i wneyd Yb Oenig yn annerbyniol. Tebygol y teimla rhai o'n cyfeillion yn anhapus o eisiau cyhoeddi eu hysgrifau; yn wir, teimlwn felly ein hun- ain; buasai yn llon genym allu eu cyhoeddi bob un, a phob gair o bob un; ond nis gallwn. Beth bynag, er mwyn ein cyfeillion, ceisiwn wneyd rhyw sylw beirn- iadol ar yr ysgrifau hyn, y cyfryw allai fod o ryw addysg ] i'n cyfeillion, ac yn gefnogaeth iddynt i ddal ato. Fe i allai y teimla ambell un hefyd, wrth i ni wneyd hyn, ei fodyn ormod o wr i ni i wneyd un adolygiad ar ei waith; beth bynag, y mae y fantais genym yn awr, fel y dywedai Edward Coslett ryw dro pan yn pregethu mewn Cyfarfod Misol. Yr oedd wedi bod mewn ychydig o ddadl â'i frodyr mewn cyfarfod neillduol am ryw bwnc dipyn cyn hj-ny, ac wedi ei orchfygu.nes ydoedd yn fud. Ond wedi iddo esgyn i'r pwlpud, "Dyna 'nawT," meddai, "y fi yw'ch mistir chi bob un." Fe allai y chwarddai ein cyfeülion pe deallent ein bod ninau yn sibrwd yr un geiriau uwchben y basgedaid gohebiaethau sydd ar y bwrdd o'n blaen. Bellach, ynte, ceisiwn dafiu rhyw nodiadau byrion ar amryw o'r darnau rhyddieithol yma. Ctymerwn hwynt o'r trwch, fel y dygwyddant. " Carwr Dysg" Ei bapur cyntaf ar " Ddysgeid- iaeth." Y mae y pwnc hwn yn un digon pwrpasol; ond y mae y dull yr ymdrinia ein cyfaill ag ef yn rhy ddwfn ac athronaidd i'r Oenig. Y mae yn medru ysgrifenu Cymraeg yn well na llawer o'n gohebwyr; ond y mae eisiau ymberffeithio arno, Yn mysg ei wallau, y rhai a ganfyddwn amlaf ydynt gosod "i'w" yn lle "yw," ac i'r gwrthwyneb. Dyma frawddegau yn awr o flaen ein Uygaid. "Effaith dysg i'w y dillad a'n gwresoga." "Er nad i'w dysg yn cael ei geni gydag ef" —"Gorsaf dysgeidiaeth i'w y cynneddfau eneidiol"— "anhyall i'w i ddyn fod yn ddysgedig, os na fydd cyd- ____Hhif. v. * ' 21