Skip to main content

ANERCHIAP. 81 ANERCHIAD. Ddarllenwyr ieuainc yr Oenig,—Wele ein Misolyn wedi ei gyehwyn bellach. Yr ydych wedi gweled dau rifyn o hono, eu darllen, eu barnu, a chaufod lluaAvs o ddiffygion ynddynt, ond odid. Ni welwyd dim erioed eto yn boddhau pawb, ac anaml y gwelwyd pob peth mewn un llyfryn yn boddio neb; a thebyg mai y cyfryw yw tynged Yr Oenig. Y mae yn rhy rywbeth gan hwn, ac yn rhy rywbeth arall gan y llall; ac nid oedd neb mor fíbl a dysgwyl iddi, er mai Oenig ydyw, i í'od yn berffaith-gwbl. Ond, ar y cyfan, tybiwn yn ostyug- edig í'od ei hysgrifau oll yn ddarllenadwy a buddiol, ac yn llawn gwerth eu darllen a thalu am danynt. Yr ydym yn dra diolchgar i'n cyfeillion yn mhob man am y gefnogaeth ydym wedi ei dcrbyn oddiar eu dwy- law. Yr ydym wedi derbyn eymaint eisoes a'n galluoga i fyned yn mlaen yn ddibrofedigaeth. Ac yr ydym y11 addaw gwneyd ein goreu i ddwyn allan bethau difyr a buddiol i wasanaethu ein cefnogwyr, tra y pâr eu hy- nawsedd hwy yn gymhorth i ni. Dymunem, ar gyehwyniad ein Cyhoeddiad bychan hwn, i wneyd un peth yn hysbys; sef, nad oes dim emu- adol yn perthyn iddo; ond hatlihg yw a gyflwynir at wasanaeth y genedl yn gyfíredinol, ac y mae yn honi yr unrhyw berthynas a ])hob Cymro yn ddiwahaniaeth. Mae yn ofynol fod gan enwadau crefyddol eu cyhoedd- iadau eu hunain, i drin a chyhoeddu eu materion eu hunain; ond, rywfodd, y mae yn anhawdd i neb gychwyn un cyhoeddiad eyfnodol, na chyhoeddu un llyfr, braidd, na bydd y wlad yn ei glymu wrth ryw enwad ar unwaith; a bydd hyny yn efí'eithio yn ddrwg iawn ar ei gylchrediad. Yn wir, ychydig yw y cyhoeddiadau a broffesant y rhyddfrydigrwydd yma yn Nghymru. Yr ydym yn synu fod eu nifer mor lleied; ond nid ydynt yr ychydig hyny heb oddef yn drwm oddiwrth y brofedig- aeth hon. Wel, anAvyl gyfeillion hawddgar, gwybydd- wch nad yw Yr Oenig i fod yn ddim i enwad na phlaid; edrycha mor siriol yn wyneb eglwyswr ag ymneillduwr; Ehif. iii. 11