Skip to main content

YR OENIG. ANERCHIAD. Ieuenctyd Ha.wddgar,—Henffych well! Y mae yn llawen genym gael syllu ar eieh wynebau siriol trwy lin- ellau a thudalenau Yr Oenig. Mae yr olwg arnoch yn cyffroi teimladau ein ealon bob amser, a'ch cymdeithas yn felus i ni; ac y mae yn hawdd gan ein mynwes anadlu allan y dymuniadau goreu yn weddiau ar eich rhan. Ein hamcan wrth anfon Yr Oenig i'ch my*g yw ych- wanegu dalen newydd at eich manteision llenyddol. Y mae cynydd manteision llenyddol Cymru yn falchder i ni: ond y mae gwelcd lluaws mawr o blant ac ieuenctyd ein gwlad a'n cenedl yn dibrisio ac yn troi ymaith oddiwrth lyfrau a gwybodaeth, at segurdod ac oferedd—yn cefnu ar lwybrau addysg, anrhydedd, a dyrchafiad, ac yn dewis ffordd dlawd a diifrwyth y drygionus,—y mae yn ddolur i'n cnawd, ac yn saeth yn ein calon. Carem allu myned ar eu hol i gonglau yr Jieolydd, a phen y pontydd; i ben y tomenau fpufchcsj ac ystafelloedd y tafarnau, ac i ba le bynag y maent yn myned i grwydro ac ofera, a rhoddi ein dwylaw arnynt yn serchog, i ymddyddan ac i ym- resymu â hwynt— i ymaflyd yn eu dwylaw a'u harwain o'u bodd, yn llawen a diíyr, at bethau gwell a mwy pleserus—at bleser mwy pur, uwch ei natur, a hwy ei barhad. Carem weled ein cenedl ieuanc fel cenedl o angylion, yn ymbleseru yn yr un pethau ag y mae angylion yn ym- bleseru ynddynt. Pan mae y bachgen neu y ferch yn ymdrechu i ddeall, ac yn ymborthi ar addysg a gwybod- aeth, y maent yn bwyta bara angylion: a dim ond ymroi ati, deuant cyn hir i brofi pleserau ac hyfrydwch angylion. Dyma neges Yr Oenig atoch, ieuenctyd hoff, yw ceisio denu eich sylw at lyfrau, a darllen; ac unwaith yr aiff eich bryd ar hyny, byddwch wedi cael pen y ffbrdd y bydd yn anhawdd iawn eich troi oddiarni. Cymerwn Ehif. I. 1