Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR OENIG. ' 201 DWYFOL YSBRYDOLIAETH. GAN Y PAECH. LEWIS EDWAEDS, BALA. AT OYGWYB. TR OENIG. AnwyiT Gyfeillion,—Pan oeddwn yn meddwl am ysgrifenu rhyw fath o draethawd byr i'w anfon i chwi, er dangos fy nghydnabyddiaeth o'ch caredigrwydd yn eich gwaith yn fy anrhegu â'ch cylchgrawn gwerthfawr bob mis, daeth llythyr i'm llaw oddiwrth wr ieuanc o Sir Forganwg, yn yr hwn y mae yn gofyn am gynghor a chyfarwydclyd yn ngwyneb dadleuon cyfrwys rhyw anffyddwyr sydd yn ei flino; a chan nad yw hyn ond engraifft o'r hyn eydd yn bod mewn llawer man, ac mewn llawer amgylchiad, tybiais mai gwell fyddai i mi ei ateb, os gwelwch chwi yn dda, drwy gyfrwng yr Oenig. Mae y llyfrau ar y pwnc hwn yn rhy aml i'w rhifo, a'r rhesymau a gynwysant yn anatebadwy: ond y maent gan mwyaf allan o gyrhaedd y cyffredin, a'r rhai goreu o honynt yn anhawdd i'r anwybodus eu deall. Ac heb- law hyny, y mae anffyddiaeth yn ddiweddar wedi newid ei safle, fel nad yw llawer o'r hyn a ysgrifénwyd yn ei herbyn yn cyffwrdd yn uniongyrchol â'r mater mewn dadl. Ond y mae dau ymresymiad yn ymddangos i mi yn hawdd i bawb eu deall, ac ar yr un pryd yn myned dan wraidd dadleuon gwrth-grediniol yr oes hon: ac os nad wyf yn camsynied, y rhesymau hawddaf, yn yr achos hwn, fel yn mhob achos arall, yw y rhai dyfhaf. Y gosodiad cyntaf y dymunwn alw sylw y bobl ieuainc ato yw, mai yr unig wir fawredd yio mawredd moesol. Rhoddwch le i'r ystyriaeth yma yn eich meddyliau, gyfeillion ieuainc; a chewch weled y bydd yn wasan- aethgar i chwi mewn lluaws o amgylchiadau. Yr unig ddynion gwir fawr yw y dynion sydd yn fawr mewn moesoldeb; a'r unig wirioneddau gwir fawr yw gwirion- eddau moesol. Er yr addefir hyn mewn geiriau, dan- gòsir tuedd barhaus i'w annghofio gan rai a honant bethau gwêll, yn y parch a delir ganddynt i gyfoeth, i rwysg bydol, ac i dalent a dawn, ar wahan oddiwrth Rhagfyr, 1856. 16 ÿò