Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y G W.LADG AR W R "CAS GWR NA CHAUO " V WJiAD A'l MACO.'' Rhif. LXXXII.] HYDREF, 1839. [Cyf. VII. BYWGRÀFFYDDIAETH. COFIANT WILIAM PENN. (jPörA^ o *« ẁ/, 260.) Olrheiniasom fywyd Wiliam Penn yn ein Rhifyn blaenorol hyd nes ei ddyfod i feddiant o'i diriogaeth yn yr America, wedi ei sicrhâu iddo drwy ammod-ysgrif V brenin Charles II. gyda chydsyniad ei seneddwyr. Yn ebrwydd wedi hyn, Penn a ddechreuodd wahodd pobl Ewrop i fyned drosodd gydag ef i ymsefydlu yn ei diriogaeth ac i'w diwyllio. Y telerau a gynnygiai efe i ymfudwyr a chwennych- ent fyned yno oedd bod iddynt gael y maint a fynent o dir yn ol dwy bunt o daliad, a swllt o ardreth blynyddol, am bob 100 cyfar, er nad òedd efe ei hunan yn gwerthu darnau mor fychain a hyny, eithr yn rhandiroedd helaeth o bum mîl o gyfeirîau am gan punt, yr hyn ydoedd brîs isel iawn mewn eymhariaeth i'r hyn y gwerthir y cyfry w diroedd yn yr Ame- rica y blynyddoedd hyn, sef yn gyíFredin o un cant i dri o ddolars am bob cyfar. Etto y prîs isel hwnw a wnai swm dir- fawr o arian pan ystyrid fod tiriogaeth Penn yn ddim llai na 26,000,000 o gyf- eiriau, neu ynghylch 40,000 o filltiroedd ysgwâr arwynebol. Trwy fod y telerau uchod mor rhesym- 9l, daeth nifer mawr o brynwyr yn Lloegr a manau ereill; a dywedir ddarfod i'r Cymru brynu tua 40,000 o gyfeiriau rhwng hyny a'r flwyddyn 1682, pryd yr ymfudasant yno yn dorf anrhydeddus, gan ffurfio eu sefydliadau Ue y dewisent, a'u galw yn ol enwau eu trigfanau gen- edigol, megys Méîrionydd, Maesyfed, Tref-newydd, Gosëh, Uwchland, &c.— Ond dealler mai nid Crynwyr yn unig oedd yr ymfudwyr, eithr bod yn eu plith filoedd o dlodion a duwioliòn o enwadau crefyddol ereill. Nid äeth Wm. Penn ei hun drosodd gyda'r ymfudwyr cyntaf, ond anfonodd ei gefnder, y Cadben Wm. Markham, fel dirprwywr drosto, ac i ddarparu lle cyfaddas i'w dderbyn pan y delai. Y trefedigion cyntaf a adawsant Jioegryn Awst, 1681, mewn tairolong- October, 1839, Pp Vol. VII. au; a'r flaenaf i gyrhaeddyd tir yr Ame- rica ydoedd y John 8ç Sarah o Lundain; yr ail, a elwid yr Amity, a chwythwyd i'r India Orllewinol, fel nas gallodd gyr- ha^ddyd y porthladd amcanedig hyd y gwanwyn canlynol. A'r drydedd, a elw- id y Factor, o Fristol, a gyrhaeddodd Gaerlleon ar yr lleg o Ragfyr, a'r nos- waith hòno rhewodd yn yr afon, ac nis gallodd ymadael nes i'r gauaf fyned heibio.—Erbÿn Awst, 1682, vr oedd y bedwaredd long, a elwid y Welcome yn barod i hwylio; ac yn hòno yr oedd Penn yn bwriadu myned allan ; ond cyn iddo gychwyn, barnodd yn weddus iddo fyned i ganu yn iach i'r brenin Charles, ac ar yr achlysur bu ymddyddar. hir rhyng- ddynt. Yr oedd yn rhyfedd gan ei Fawrhydi glywed fod Penn yn meddwl anturio ei hunan i blith Indiaid gwyllt- ion anwaraidd yr America heb fyddin o filwyr i'w amddiflyn, ac i gymmeryd y tir oddiarnynt trwy nerth arfau. Ondy Crynwr nid ofnai ddim niwed oddi^pth- ynt, gan ei fod yn penderfynu talu yn onest iddynt hwy thau am eu tir, er ei fod eisoes wedi talu mor ddrud i frenin Lloegr am yr unrhyw. Charles a wawdiai y bwriad hwn fel peth afreidiol, gan fod y Saeson wedi ennill y wlad eisoes oddi- ar yr lndiaid, er mai trwy orthrais ac heb un hawl amgen na 'r hyn a elwir yr hawl o ddarganfyddiad (discovery). Ond Penn a argyhoeddodd y brenin o afresym- oldeb ac anghyfiawnder y fath hawl ddychymmygol a gorthrymus, gan ddad- gan ei fwriad penderfynol o ymddwyn yn gydwybodol tuag at yr Indiaid, fel y byddai iddo drwy hyny ennill eu cyfeill- garwch hwy, a chael sail well i ddysgwyl bendith y Goruchaf ar ei anturiaeth. Ar ol cyflawni hyn o orchwyl moes- garol tuag at y brenin, Penn a ddychwel- odd at ei deulu yn Warmingburst, gyda pha rai y treuliodd un diwrnod i'w cy- suro a'u hyfforddi; ac wedi eu gorcbym- rayn yn ddifrifol i ofal yr Arglwydd tra y byddai yn absennol oddiwrthynt, can- odd yn iach iddynt y boreu dranoeth