Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANESIAETH CREFYDDOL A GWLADOL. 283 ydym yn eu pasio fel arferol.—Oddiyma aeth y barnwr rhagddo i— SWYDD FON, Lle yr agorodd frawdlys y.sìr hòno yn y Beau- niaris ar y 25ain o'r mis, gan adael hyd foreu dranoeth y materioö oedd i'w dwyn ymlaen. Y pryd hwnw, ar pl rhoi eu Uwoni'r Uchelreith- wyr, ac i'w arglwyddiaeth roi ychydig gyfar- wyddiadau iddynt mewn perthynas i'w dyled- swyddau, aeth gorchwylion y frawdlys rhag- «dynt. À thra yr oeddid yn penderfynu rhyw ychydig o amrafaelion cyfreithiol, daeth pen- rhaith (foreman)jr Uchel-reithwyr, Syr Rich- ard Bulieley, i mewn gan hysbysu eu bod hwy wedi barnu yn unfry d y dylasaicyhuddiad Hugh Itoberts fod am lofiuddiaeth yn lle am ddyn- laddiad. Yr hysbysiad hwn a barodd gythrudd nid bychan yn y llŷs, a'r barnwr a archodd i'r cyhuddiad gael ei gyfnewid felly.—Adroddwn y treial hwn ár fyrder. Henrÿ Hughes a addefodd ei hun yn cuog o ddwyn dillad o eiddo Robert Roberts, ac oriawr (wätch) o eiddo Richard Parry. Dedfryd— mis o garchariad am y trosedd cyntaf,a 7 mlynedd o alltudaeth am yr ail. John Thomas, jn ddiweddar c* Langristiolus, a brófwyd yn euog o ddwyn pénadur ac arian o eiddo Ri'chard Davies, a het a phâr o esgidi.au o eiddo Owen Owens. Ond trwy gaffael gair da am ei ymddygiad blaenorol, ni roddwyd arno o»d 6 mis o garchariad. • Y boreu dranoeth dygwyd ymlaen dreial y cfybwylledig Hugh Èoherts, masnachydd ac awerthydd (auctioneer,) o Langefni, dau ddau gyhuddiad gwahanredol, sef un am lofruddiàeth gẅirfoddol ei wraig, Sydney Roberts, drwy ei cfaicio a'i dyrnodio &v nôs y 7fed o Fai, o effeithiau yr hyn y nychodd nes ei marw ar y iäfed o'r un mîs. Y cyhuddiad arall ydoedd am ddyn.Iaddiad.—Oddiwrthytystiolaethau a ddyg- wyd ar yr achos ymddangosai mai dull yr am- gylchiad ydoedd,ÿn fyr, fel y caniyn:—Yroedd Httgh Roberts a'i wraig wedi bod yn for'iod 5 ttilynedd, ac yn cyfanneddu yn Llangefni. Ar foreu y dydd crybwylledig, cododd ymrafael rhyngddynt oherwydd na adawai efe iddi hi fyned gydag ef mewn cadair-gerbyd i ifair Öanerch-y-medd. Rhwng 9 a 10 ar glôch yn ÿr hwyr efe a ddychwelodd adref, pryd yr ydoedd hiwedi myned i'w gwely~ Ar. ol ymddyddan ychydig â'iwâs, efe a aethifynui'rystafellwely, gah dyngu (meddaiuií o'r tystion,) y lladdai efe ei wraig. A phan aeth efe ati, llusgodd hi o'ir gwely, gan ei chicio yn greulawn â botasau aewyddion oedd am ei draed wedi eu prynu yn ÿ ffair, heblaw ei churo â'i ddwylaw hefyd, nes iddi waeddi yn grôch am i ryw un fyned i'w bachub. Aeth y^forwyn i fynu, a chafodd ei toaeistres yn eistedd ar fawr y lloft, a dim ond ei dillad nôs am dani; dododd hi yn y gwely, a gwelodd amryw gleisiau mawrion ar wahanol ranau o'i chorph. Daeth y Wraig i lawr i'r gegina'rsiop y dyddiau canlynol i hyn; ond ÿrydoeddyn gwanychu yn gyíiym, a bu farw brydnawn y dydd Sadwrn canlynol. Y nôs flaenoröl galwyd meddyg i'w golwg, yr hwn a dystioddiddo weled y cleisiŵUí crybwylledig.— Ymeddyg hwn, a dau neu dri o feddygon ereill, a alwyd i edrych corph y wraig ar ol iddi farw, a thystiasant oll ar y treial nas gallent roddi bam benderfynol pa un a ftiasai hi farw o effeith- iau y gamdriniaeth a gawsai gan ei gwr ai o ryw áchos neu achosion ereill.—Y barnwr pan glywodd v tvstiplaethau hyn o eiddo y medd- ygon, a ddywedodd wrth y rheithwyr nas gellid myned â'r treial ymlaen ddim pellach. Am gretllonderau y carcharor tuag at ei wraig nid oedd yr amheuaeth lleiaf; etto, ebai ei arg- Iwyddiaeth, mor lariaidd yw cyfreithiau Brydai» fel y maent yn gofyn y tystiolaethau mwyaf dibetrus cyn gallu condemnio neb; a chan nad oedd y cyfryw dystiolaethau i'w cacl yn yr am- gylchiad dan sylw, fod yn rhaid i*r cyhuddiad fyned yn ddirym.—-Felly dygwyd y ddedfryd dienog. Ac wrth ollwng y carcharor ymaith, dywedodd £ barnwr wrtho—Ychydig iawn a fu rhyngoch a dyfod dan ddíaledd y gyfraith; ac jr wyf yn gobéithio y bydd hyn yn rhybudd i chwi am weddill eich hoes. Yr oedd y tystion oll yn addef fod y wraig yn arfer yfed llawer o wirodau. SWYPÍ) DDINBVCH. Dydd Sadwrn, Gorph. 28ain, agorwyd brawd- lys y sîr yma yn Rhuthin, ger bron yr Ynad Vaughan, yr hwn a osgorddiwyd i'r dref gan yr Uchel Sirydd, Samuel Sandbach, Ysw., o Haf- od-un-nos, a'i Gaplan, y Parch. Richard Ap pleton, M. A., &c. Gohiriwyd y gorchwylion hyd 10 ar glôch foreu y dydd Lltm canlynol; pan ar ol rhoddi eu llwon i'r Uchel-reithwyr, y cyfarchodd ei arglwyddiaeth hwynt i'r perwyl a ganlyn ,^'Y naae'ü ddywenydd nid bychan i mi gyfarfbd drachefn â chorph mor anrhydeddus o Uchel-reithwyr. Yr wyf wedi edrych dros y materion sydd i ddyfod dan ystyriaeth yn y frawdlys hon, ac o ran rhifedi nid ydynt pnd bychan yn wir; ond y troseddau, ynddynt eu hunain, ydynt o natur ddifrifol iawn. Yma ei arglwyddiaeth a gyfeiriai yn neillduol at dros- edd Elisabeth Wiliams, yr hon a gyhuddid o ddyfetha ei phlentyn, a hj'ny nid yn yr esgor- eddfa, eithr ymhen amryw fisoedd ar ol hyny. Yr unig gwestiwn i'w benderfynu gyda golwg ar yr amgylchiad hwn ydoedd, ai o wirfodd ac o falais y cyflawnwyd y weithred. Y mae yma feny w arall dan gyhuddiad o ddirgelu genedig- Äetìí ei phlentyn anghyfreithlawn: ac yn ol cyfraith a wnaed yn nheyrnasiad ei ddiweddar Fawrhydi, Sior IV., y mae 'r trosedd hwn yn cael eiolygu yn gamymddygiad, ac yn gwneyd y sawl a?i cyflawno yn ddarostyngedigi ddwy flyn. edd o garchariad, a hyny heb ddim gwahaniaeth pa un bynag ai yn fyw ai yn farw y ganer y cyfryw blentyn. Os bydd dynes ar amser gen- edigaeth ei phlentyn y n meddiannu ei chynneddf- au, a'r plentyn yn fyw, a bod iddi ei adael yn agored i'i* tywydd neu ryw beryglon a ddichon fod yn achos o'i farwolaeth, ymae'r gyfryw ddynes yn pupg o lofruddiaeth. Eithr os ym ddengys ei bod, drwy wendid neu ryw lesteiriad arall, yn analluog i hysbysu genedigaeth ei mab an, nid cyfaddas a fyddai dwyn cyhuddiad (bill) o drosedd bywyd : yn yr amgylchiad dan sylw, barnai ei arglwyddiaeth nas gellid dwyn cy- huddiad amgen nag am gelu genedigaeth y plentyn. Gobeithiai y byddai troseddau mor warthus yn fwy anfynych. Pan oeddwn yn myned drwy Gymruddwy flynedd i'r pryd hwtì, yr oedd yn ddywenydd mawr genyf weled cyn lleied o droseddau, yn enwedig rhai o bwys; ac yr wyf yn gobeithio y bydd i'r cyfryw arwydd. ion o deimladau crefj'ddol a moesol gael eu meithrin a'u cryfhâu.—Yr wyf yn deall fod Cyhuddiad i'w ddwyn ymlaen yn erbyn yr Anrh. H. E. Eeppel Somerset am ddyn-laddiad a ddygwyddodd, fel yr hònir, drwy iddo ef dar- awo ceffyl oedd yn tynu cludai coed (timber carriage), ar ba un'yr oodd dyn a dynes yn