Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

126 HANESIAETH CREFYDDOL A GWLADOL. hadrodd i'n darllenwyr yn gyfl'redinol.—Oddi- yma aetb y Barnwr rhagddo i SWVDD I'EIRIONYÜD, Ac agorodd y llýs yn y Balaar y lOfed o Fawrth, ac ar y 12fed dechreuwyd y treialon. Y car- charor cyntaf a ddygwyd ger bron ydoedd Thos. Wárâ, dan y cyhuddiad o ddwyn crýs a phâr o hosanau ar uòs y 4ydd o Ionawr diweddaf, o eiddo Mr. John Humphreys, o'r Siambr-wen, ymhlwyf Llángar, gerllaw Corwen. Gwertbwyd y crýs wedi hyny yn lthuthin am ddeunaw cein- iog, a chafwyd yr hosanau am draed y carchar- or pan ddaliwyd ef yn Abergele.—Ar'ei gaffael- iad yn euog, dedfrydwyd ef i 3 mis o garchariad. John Hughes a gyhuddwyd o ddwyn masc ceffyl o eiddo Evan Richards, o'r Bala, ar yr 20fed o Chwefror.—Cyfaddefodd ei hun yn euog, u'i ddedfryd ydoedd 2 fis o garchariad.—Nid oerid yma ddim ychwaneg o garcharorion, a'r dadleuon cyfreithiol nid oeddynt o wertb eu hadrodd. *#* Ni oddef ein terfynau i ni roJdi hanes ychwaneg o'r brawdlysoedd yn y lthifyn hwn. GWYL DDEWI SANT. Ni» ydym yn cnfio ddarfod i ni erioed weled cymmaint o ddyhewyd ag eleni ymysg cenedl y Cymry am gynnal i fýnu gofftüwriaeth eu pri'- odol Sant, sefyrhenArchesgob Dewi. Dtttblwyd ei wyl ef ar y dydd cyntaf oFawrth diweddaf yn y rhan fwyaf o hrif drefi Gwynedd, ac amryw o drefi Lloegr, lle y mae ll'iosowgrwydd o'r genedl yn trjgiannu; ac ymysg manau ereill ni ddang- oswyd yn unlle fwy o frwdfrydedd ar yr achlys- ur nag yn Li/e'rpwll ( L'werpool.) Yn y boreu cynnaliwyd gwasanaeth crefyddol yn yr Eglwys Gymreig, ac oddiyno cyd-rodiodd torf liosogi Ysgoldŷ y Cymry, lle y manwlhol- wyd yr ysgoleigion mewn gwahanol gangenau o ddysg; a chyn ymadael, y cadeiriwr, Henry Sandbach, ysw., Uchel-sirydd Dinbych, a gyf- lwynodd £20 tuag at yr elusen. Am 2 ar glôch brydnawn, aelodau Cymdeith- as y Cynfrydeiniaid, ac ewyllyswyr da eraill, i jryd ynghylch 200 o nifer, a ymgyfarfuant yn Templars' Hall, i gyd giniawa efo eu gilydd,ac hefyd igynnal Eisteddfod, yn oi Hysbysiad blaenorol, dan nawdd y Gwir Anrb. Arg. Diu- orben; yr Anrh. E. M. Ll.Mostyn; J. J. Guest, ysw., M. P.; yr Arglwyddcs Charlotte Guest, Mrs. Hall, Llanofer,&c. Yn fuan wedi 4 ar glôch llanwyd y Neuadd o foneddigion a boneddiges- au, a chymmerwyd y gadair lywyddol gan y Parch. E. Eyans, Caerllëon, Bardd Cadeiriol Eisteddfodd Erenhinol Dinbych; a chyflawn- wyd y gorchwylion ymron i gŷd yn y Gymraeg. Agorwyd yr Eisteddfod trwy adseiniadudgorn, a darilenwyd yr Osteg arferedig gan y Parch. Joseph Hugbes ( Carn Inglù )—Yna y Cadeir- ydd a draddododd araeth Gymreig hyawdlaidda phriodol i'r achlysur, yr hon ni oddef ein terfyn^ au i ni ei hadrodd yma. Ar ol hyny efe a an- nogodd i'r cyfansoddiadan cyfarchiadol a ddioh- onai fod wedi eu darparu i'r perwyl gael yn awr eu hadrodd, ac o'r cyfryw yr ydoedd yr eiddo Asîedydd, Mr. Owen Owens, Mr. John Hughes, &c y rhai a roesant ddirfawr foddhâd.—Wedi hyn cyfarchwyd y cyfarfod gan y Parcb. Daniel Jones, yr h-wn à addefai eî ddyẁenydd o wcíéd y fîith gyntínjliad ö'i gydwladwyr wedi ymgasglu i'r dyben o gefhogi cadwraeth y Gymraegj Tef* fynodd gyda'r Englyn isod— Dydd yw hwn o duedd hynod,—dyddcân, Dydd cynnal Eisteddfod; Mỳn y Beirdd mai iawn yw bod Hoen ddyfal ar hen ddefod. Yna rhoddwyd caingc ary delyn Gymrcig, gan ltichard Jones, Llangollen. Y pryd hwn hysbysodd y Cadeirydd fod dy- farniad y Cyfansoddiadau ymgeisiol yn awr i'w bysbysu, a hyny a wnaed íel y canlyn:— 1. Am yr Awdl oreu ar y testun " Abrahant yn offrymu Isaac,''—Gwobr, Geirlyfr mwyaf y Dr. Owain Pughe.—-Yr ennillydd ydoedd Mr. John Hnghos, o Le'rpwll,llangc ieuangc 18 oed, genedigol o nreffÿnnon. 2. Am y chwe Englyn * goreu ar " Gledr- ffordd " (Èailway.) Gwobr, lOs'.; hwn hefyd a ennillwyd gan yr un ymgeisydd. 3. Am y chwe Englyn goreu i " Gymdeithas Cymreigyddion Abergafeni,—Gwobr, lOs. En- nillwyd hwn gan ymgeisydd o'r enw flugiol " Ap Gomer " alias, Gwilym Ddu Glan Hafren, sef Mr. Wm. Owen, o'r Dref Newydd. 4. Am y chwe Englyn goreu i " Noddedydd- ion \ Gymdeithas hon," sef J. J. Guest, Ysw.j A. S., a'i Arglwyddes Charlotte Guest, o Ddow- lais. "—Gwobr, Bathodyn Arian. Ar y testuil hwn yr oedd wyth o ymgeiswyr; dyfarnwyd y fuddugoliaeth i Mr. Hugh Jones, o Gaerllëon, (alias H. Erfyl,) Golygydd y Gwladgarwr, dan y ffug-enw " Eìnion ab Haiam." Y cyfan- soddiad a ddarllenwyd gan ei gynnrychiolydd, Mr. R. Morris, yr hwn hefyd a urddasolwyd â'r Bathodyn. * Yraysg yr wyth cyfansoddiad aflwyddianus ar y testun hwn, yr oedd chwe Englyn gogan- awl nodedig, y rhai a ddarllenwyd yn gyhoeddus gan yr Ysgrifenydd, Mr. R. Morris, nes peri ucheî grechwen drwy 'r holl ystafell: wele hwynt isod :4— Englynion i'r Gledrffordd. Ffordd chwithig, ffyrnig, uffernawl,—ydyw Yr hen Gledrffordd swynawl, I'w rhedeg mae arhudawl, Offeryn du fel ffroen diawl. Rheibio wna gant hên ribyn gul,—arni Mae oernych a helbul; Dewiswn daith tri duwsul, Rhag ofn mwy ar gefn y mûl. Ceffyl aflan, tân yn tynu,'n astrus I ddistryw tan chwyrnu ; Rhwygfa ddiawl drwy ogof ddu Hudoliaeth " yr hèndeulu. * Tiiillwm garlamwr tanllyd,—un trwstan Un trystiogdychrynllyd, Lluchia bawb,—holl lwch y byd Dry allan; a mŵg drewllyd. O'i enau, weflau aflán,—e boera Wlybyroedd fel brwmstan; Y diafl hyll, baw deifl allan; Ac uwch tir,mae 'n cucbio tân. Hwn á'i" bwff" ddychryna bysg,—ac adar Y goedwig a gymysg; Mae'n tarfu pawb mewn terfysg; Goreu yw llawr neu çar llysg. Shon ap MetwîAN.