Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLADGARWR. Air " CAS GŴtt NA CHARO " Y WLAD A'l MACO." Rhif. 1.] IONAWR, 1833. [Cyf. 1- Y CYFARCHIAD. Y mae yn arferiad er cyn côf, ar ymddangosiad Cyhoeddiad newydd, fod i gynlîunwŷr y cyfryw fynegi i'w darllenwŷr, beth a'u cymhellai i gym- meryd y fath orchwyl mewn Haw. Mewn cydym- ffurfiad â'r unrhyw ddefod oedranus, y mae Cy- hoeddwŷr y Cylchgrawn presennol yn dymuno hys- bysu i*w cyd-genedl yr hyn a'u tueddodd hwythau i farnu y fath waith yn anghenrheidiol : ac am y tybient yn ddymunol i'r wasg a'r areithfa Cymreig fod yn gyfddull, hwy a arweinir, yn y lle cynlaf, i wneuthur ychydig sylwadau nacâol, drwy fynegi yr hyn nas cymhellodd hwynt i chwanegu at nifer y Cyhoeddiadau cylchynol a argreffir eisoes yn y Dywysogaeth. Ac yni/?aena/'oIl, Nid gobaith am elw a'u denai i'r anturiaeth, canys y mae hwnw(os bydd dim) yn barod wedi ei dd'iofrydu at wellhâd y Gwaith. Yn yr ail le, Nid er ymdroi ychwaith mewn down-blu esmwythdra yr ymosodasant at y gorchwyl, canys ni bu i'r Cyhoeddwŷr, er y dydd y cychwynasant yn yrhynt lëenyddawl hon, orphwysdra i wadn eu troed. Ac yn olaf, Nid gydá golwg ar wrthwynebu neb rhyw Gyhoeddiad misol arall (fel y myn rhai gwŷr da baeru) yr amcanwyd y Cylchgrawn hwn. Wel ynte, pa beth a'i hachlysurodd? Hyny, yn gadarnhàol, a adroddant ar fyr eiriau. Awydd i gynnysgaeddu y Cymry â mwy ofoddion Gwybodaeth GyffredinoL Yr oeddid yn gweled amrywiol Gyhoeddiadau defnyddiol a hyfforddiadol yn gor- ddylifo o'r Argraffwasg Seis'nig, heb un argoel fod i'r cyffelyb ymdrechiadau gael eu gwneuthur er di- wallu anghenion y Cymry. Yr oedd y Cyhoeddwŷr yn canfod y werin Seis'nig yn cael eu cynnysgaeddu â moddion addysg, braidd ymhob cangen o wybod- aeth, tra yr oedd eu cyd-genedl, y Brython, o herwydd diffygadnabyddiaeth o'r iaith Seis'nig, yn cael en gadael yn amddifaid o'r cyfryw fanteision. Gresynent wrth weled yr holl wlâd, o'r bron, yn myned rhagddi mewn hyfforddiant a dealltwriaeth çyffredinol, a hil Gomer yn cael eu gadael ar ol, neb fwynhâu yr anhrydedd o gyd-deithio â'u cym- mydogion parchus yn yr yrfa freinniol, a hyny o her- wydd eu mawr fyrdra o gyfryngau Gwybodaeth. Mae'ri wir fod yr oes bresennol yn y Dywysogaeth, oherwydd helaethach manteision, yn tra rhagorí ar eu hynafiaid; Ilawer o'r rhai a wasanaethasant eu cenedlaeth heb fod yn alluog i ddarllen iaith eu màmau. Er's ychydig flynyddoedd a aethantheibio, mae mawr gynnydd wedi bod ar foddion gwyb- odaeth yn Nghymru; mae nifer y Cyhoeddiadau Cylchynol ac ereill Iyfrau buddiol, a argreffir yn yr iaith Gymreig, yn Iled liosog mewn cydmbar- iaeth i rifedi y trigolion. Etto, eryr holl ymdrech- iadau canmoladwy a wneir yn y blynyddoedd hyn er addysgu y Cymry, mae'n rhaid add'ef nad ydynt o hyd oud megys ymdroi rnewa rhyw gyich pen- nodol o wybodaeth, heb ddangosfawr oarwyddion anturio dros gyffiuiau y cylch hwnw, na thòri ne- mawr dir newydd ; ac oddiar ystyriaeth o hyn tybi- wyd mai, nid dirmygus fyddai y gymmwynas o ymdrechu estyn eu terfyiiau a'u harwain allan i ehangderau helaethach—rhyddhâu eu hangorau, a gwthio eu llestri i ddyfroedd dyfnach. Buasai dra dymunol pe gaîlasai y Cymry gyd- gyfranogi â'u Cymmydogion, a bod yn abl i yfed o'r un ffynnonell a hwythau, ac i dòri eu syched yn yr un ffrŵd Mae'n resyn na welid mwy o ymdrech ymhlith meibion Gwalia i ddysgu iaith eu cyd- ddeiliaid, pan ystyrieT mor annhraethol yw eu rhag- orfreintiau hwy mewn cydmhariaeth i'r eiddynteu hunain. Wrth ddywedyd hyn, na feddylied y dar- llenydd ein bod ni ar un cyfrif am ddiddymu yr iaìtbw- Gymreig, nac attal ei meithriniaeth ; ein dymuniad yw, nid dileu ý Gymraeg, ond dysgu y Saesoneg; ac nid ydym yn tybio y darllenir hyn o linellau gan un darllenydd oll, yr hwn ni addef y byddai yn fantais i bob Cymro ddeail yr iaith Seis'nig. Ond tra y mae cynnifer o'n çyd-wiadwŷr yn parhâu yn fyr o gyrhaeddyd hyny o uchafiaeth, ymdrechwn roddi iddynt, yn y Cyhoeddiad hwn, ychydig o ddillynion cynnyrchiadau toreithiog y Saeson. Mae yn wir nas gellir cyflawni maith orchestion mewn rhifyn chwecheiniog, unwaith yn y mìs. Ond pa beth sydd i'w wneuthur? Drwy ei godi i swllt, fe'i symudid o gyrhaedd y werin bobl, ar gyfer y rhai yn arbènigol y bwriedir ef. Pe cyhoeddid ef yn bythefnosol drachefn, achwynid ei fod yn dyfod yn rhŷ fynych, ac ni fyddid ond yn yr un pwll wedi'r cyfan. Nid oedd gan y Cyhoeddwỳr, gan byny, ddim i'w wneuthur, ond trefnu Uyfryn misol, o werth chwecheiniog, i gynnwyscymmainto amryw- iaeth ag a ellid; a'r dull a ymddangosodd iddynt hwy debycaf o atteb ydyben, yw y cynllun afwria- dant ei ddilyn yn y Cyhoeddiad presennô), fel y canlyn:—Yrhan gj'ntaf o bob Rhifyn a gynnwys bedwar Dosparth, y rhai a gyfenwir y prif Ddos- parthau, séf Duwinyddiaeth—Seryddiaeth— HANESIAETH ANlANYDDOL-~a DaÉARYDDIAETH. Bwriedir rhoddi He i'r holl rai hyn ymhob Bhifyn, a chymmerir i mewn gynnifer o'r Dosparthau ereill,