Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«RILUL Y BEDYDDWYB. Rhif. 95.] TACHWEDD, 1834. [Cyf. VIII. COFIAIfT Y DIWEDDAR TITUS JENKINS, GWEINIDOG YÄ EFENGYL YN RAMSEY, SWYDD HUNTINGDON, TWTid mor ddefnyddiol ydynt hanes- ■*•_ ion bucheddau dynion yn gy- ffredin os na byddant wedi eu hys - grifenu gan y personau, y perthyn- ant iddynt, eu hunain. Nid ynt dyn- ion yn gwybod cymmaint am wen- didau eu gilydd ac am yr eiddynt eu hunain. Yn y cyffredin, pan y byddo un yn ysgrifenu coffadwriaeth buch- edd ei gyfaill, bydd yn dueddol i guddio ei holl waeledd a'i feiau, ac yn barod i arliwio ei ddarlun fel sant, mwy nâ hanner perffaith, o'i enedigaeth hyd ei fedd. Byddai yn hawdd i minnau lenwi lleni o'r Greal â'r canmoliaethau a dderbyniasom i wrthrych y Cofiant hwn, mewn gwa- hanol lythyrau o'r ardal lle bu yn gweiriidogaethu. Ond yr wyf yn bwriadu croeshoelio ychydig ar fy nheimladau, rhagblino y darllenydd, dan yr ystyriaeth na ddichon yr un- rhyw aidd i'w goffadwriaeth, ag sydd yn naturiol i ni, fod yn feddiannol gan eraill; herwydd hyn ni wnaf ond cyffwrdd yn fyr ag ychydigo'r peth- au a olygir genyf yn fwyaf teilwng yn ystod ei fuchedd. Y mae yn hysbys i'r rhan fwyaf o'n cyfeillion mai mab, sef ail blen- tyn, John Jenkins, Hengoed, o Martha ei wraig, oedd Titüs Jen- kins. Ganwyd ef mewn tý a elwir Coedcaeytyle, o fewn plwyf Blaenau Gwent, swydd Fonwy, y 15fed dydd o Ionawr, 1804. Ni ddarfu Cyf. VIII. i ni sylwi ar ddìm nodedig ynddo yn ei febyd, amgen na'i fod yn blentyn tyner o ran ei natur; ac o dymherau llarieidd, addfwyn, a gostyngedig i'w rieni. Yr oedd hefyd yn medd- iannu tuedd eirwir a diddichell. Cafodd fanteision ysgolheigiaeth gyffredin mor fuan ag y daeth i oed- ran cymmwys i'w derbyn. Yn ol ei dystiolaeth wrthyf cafodd ei ddwyn i ystyriaeth o'i gyflwr pan oedd o gylch un flwydd ar ddeg oed; yn fwyaf neillduol wrth fy ngwrando i yn pregethu ar noswaith o'r wythnos, mewn tý annedd wrth y Bontnewydd, yn Gelligaer; sylwi yr oeddwn y pryd hwnw ar waith Abraham ffydd- iog yn offrymu Isaac ei fab. Efe a gadwodd wasgfa ei feddwl am dalm o amser iddo ei hun; sef hyd ar ryẃ bryd pan yr oeddwn wedi myned ag ef gyda mi, o'r Pantanas, lle yr oedd- em yn byw, i ryw gyfarfod gweinid- ogion a gynnelid yn Nghapel Sion, Merthyr; yn yr hwn gyfarfod yr oedd yr hen frawd enwog hwnw, Dafydd Evans, o Faesyberllan, yn dy- gwydd bod yn pregethu: ac wrth ddyfod adref ar ein traed, wrth lewyrch y lleuad y noson hòno, het> neb ond ein dau, gan ymddiddan ynghylch y cyfarfod yr oeddem wedi bod ynddo, ymysg y pethau yr ymholai ef yn eu cylch, gofyn- odd, Onid oes gan Dafydd Evans, Maesyberllan, fab nëu feibíon 41