Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CMEMEAIi Y 1IE1>YJI>1ÌWY». Rhif. 94.] HYDREF, 1834. [Cyf. VIII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. J. P. DAVIS, TREDEGAR. Wedi ei gymmeryd allan o ** Nodweddiad y Parch. J. P. D., fel Cristion, Pregethwr, ac Awdwr," gan y Parch. D. Rhys Stephen, Abertawy. _____________________ fPARHAD O DUD. 295.) "CITrth edrych ar gymmeriad Mr. * * D. fel yn derbyn dull ac ag- wedd oddiwrth aniaeth reddfol ei feddwl a gogwyddiadau cynhenid ei gyfansoddiad, ei ddynodion penaf oeddynt arafwch, pwyll, amynedd, llarieidd-dra, a dyfalwch gafaelgar. Nid oedd nemawr o beth a fynegid iddo yn creu cythrwfl ymddangos- iadol yn ei fynwes; medrai yn dry- Iwyr guddio y cyfryw, os cynhyrf- asid ef oll, oddiwrth y gwyddfodol- ìon. Gellid canfod yn aml ei fod fel yn gwneuthur cofrestriad yn ei feddwl o a welai, neu a glywai, er efrydaeth yn ol llaw. Nid oedd ei feddwl yn gyfryw ag i dderbyn ar- graffiadau arwynebol, y cwbl a elai î mewn yn drwyadl idd ei gof, gan letyfa yno, a byddai gan mwyaf wrth law fel y byddai galw. Pob peth a welech ynddo,neu a glywech oddi- wrtho, a rhòddai i chwi ddarbwyll- iad ei fod yn ddyn meddylgar, yn meddu ymroddiad i chwilio, ymofyn, cymharu, pwyso, a dwys-ystyried. Wrth wedyd hyn nid wyf am i'r dar- llenydd farnu nad oedd un amser yn fyrbwyil, nac yn ddarostyngedig i dymherau nwydwyllt, neu nad oedd y fath beth â'i gynhyrfu, a chyíFroi ei anfoddlonrwydd. 0 bârthed yr olaf, odidnadoedd, wedi ei dram- gwyddo, yn teimlo gwrthwyneb- Cyf. VIII. rwydd dwysach nâ dyn mwy poeth a chyíFroadwy; ac efallai hefyd yn llai parod i faddeu ac anghofio bai, nâ'i frawd parotach i fynegu ei deimladau tramgwyddedig. Pa fodd bynag am hyn, amlwg oedd i bawb a'i adwaenai, taw llyfnedd, dwys- der, a llwyrfrydedd a wnaent i fynu gyflwr cyffredin ei feddwl. Yr oedd cyfeillach Mr. D. yn fodd- haol ac adeiladol, drwy ei fod yn ddyn o ychydig eiriau, a'r rhaihyny bob amser at y pwynt. " O'r hoíí rinweddau, dewisai Zeno ddystaw- rwydd; çanys drwy hyn canfyddai wendid un arall, a chuddiai yr eiddo ei hun." Efelly y tybiai fy anwyl fugail:—nidoedd gwagsiarad, abal- dorddi er mwyn gwedyd rhywbeth un amser yn arferedig ganddo. Ni cheffid ei feddwl ar un pwngc nad oedd wedi bod yn fater o ymofyn- iad blaenorol iddo. Efelly, pan ei clywsech yn gosod allan ei olygiad- au, gallasech hyderu nad mympwy ar ail law, neu dyb frysiog a daraw- sai ar ei feddwl, neu rywbeth wedi ei gymmeryd yn ganiatâol, a gawsech, ond barn wedi ei mabwysio ar ol ys- tyriaeth ddyfal, amyneddus, a gon- est. Yr oedd ar dro yn nghyfieillach dau bregethwr, un yn ifangc, y llall yn oedranus; pregethasai yr ieuang- wr y boreu hwnw, ac wedi vr oedfa 37