Skip to main content

CÌRRAI* Y BEBYDDWYB. Rhif. 93.] MEDI, 1834. [Cyf. VIII. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. J. P. DAVIS, TREDEGAR. Wedi ei gymmcryd allan o "Nodweddiad y Parch. John Phillip Davis, fel Cristion, Prcgethwr ac Awdwr," gan y Parch. D. Rhys Stephen, Abertawy. GANED JOHN PlIlLLIP DayIS yiîl mhlwyf Bangor, Ceredigion, ar y 12fed o Fawrth, 1786. Mab yd- oedd i'r . Parch. Dafydd Davis, Per- iglor Bangor a Henllan, yn yr un swydd. Ychydig a wyddom am ei dad, rhagor na'i fod yn cael ei ystyried yn bregethwr efengylaidd, ac yn ddyn dysgedig. John a fwynhaodd freintiau dysgedigawl cyffredin y dyddiau a'r cymmyd- ogaethau hyny. Un o'i brifnodau oedd awyddfryd anorfod i ddarllen. Drwy ddarllen wrtho ei hun, heb na chymmorth na chyfarwyddyd, ond yn y llyfrau o eiddo ei barch. dad a ddeuai idd ei ddwylaw, ffurfiodd olygiadau crefyddol yn anghytunus ag egwyddorion yr eglwys yn yr hon y dygasid ef i fynu. Ffynai yr anghydsyniadhwn, yn enwedig am yr ordinhad o fedydd; a chyn gwy- bod o hono fod dynion yn y byd yn awr yn bedyddio fel yr ystyriai efe y dylesid, yr oedd wedi coleddu yn gydwybodol a chalonog olygiadau y Bedyddwyr am yr ordinhad santaidd hòno. Ar ddiwrnod gofynai i hen- wr a weithiai ar dir ei dad, ac aelod gyda'r Annibynwyr yn y Dreicen, a oedd rhywrai yn awr yn bedyddio dynion mewn oed, a thrwy drochiad ; ac er syndod nid bychan cafodd yr ateb, fod eglwysi o ddynion crefydd- Cyf. VIIÍ. ol yn arfer yr ordinhad efelly yn y gymmydogaeth ; ac er mwy o syn- dod fyth, fod ewythr iddo, y Parch. Daniel Davies, Talgoed, yn wein idog yn un o honynt. Yn fuan wedi hyny, gan y gobeithiai fod ei galon wedi ymostwng mewn edifeirwch gerbron Duw, a'i fod yn awydd- us i wasanaethu ac anrhydeddu yr Arglwydd Iesu, ymunodd â'i ddysgyblion, a bedyddiwyd ef gan ei ewythyr rhag-grybwylledig; y Parch. S. Breeze yn pregethu ar yr achlysur; a rhoddodd ei hun yn aelod o'reglwys yn y Drefach. Yn fuan wedi hyn dechreuodd bregethu; cymmeres hyn yn gystal a'i broffes gyhoeddus o grefydd le dan am- gylchiadau lled ddigalon, oblegid gwrthwynebiad rhai perthynasau, ac yn enwedig gwrthwynebiad yr hwn a ddylasai amgen; ond rhagddo yr aeth John, gan ymroddi i" wneuthur gwaith efengylwr." Bryd hyn bu y diweddar Barch. Titus Lewis o Gaerfyrddin yn gyfaill caredigfawr, ac yn noddwrffyddlon achymmwyn- asgar iddo. Mynych drwy ei fywyd y soniai gyda pharch a chariad gwresog am gyfaill a chyfarwyddwr ei ieuengctyd, gan fendigo ei goffad- wriaeth. Aeth ein pregethwr ieu- angc am dro i'r Gogledd, gan fyned drwy sir Ffíint, lle na ffurfiasid hyd 33