Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANESiÜN GẄLAÜOL. 253 rìuwyr, yn rhoddi pwys ar gael darllen gwas- aiiaeth yr Eglwys uwch ben ein meirw, etto, pau elwid arnoin i gladdu yn y tir plwyfol, nad oeddem yn hoffi cael eiu diraddio fel dyn- ion, na'n tathru fel Cristnogion, trwy attal oddiwrthym y sylw a wnaed o eraill o'n cyd- wìadyddion dan yr un amgylchiadau.—Sylw- odd ein bod yn teimlo wrth gaei ein babanod, y rhai y dywedai ein Hiachawdwr eu bod yn " etifeddion teyrnas nefoedd," wedi eu rhesu gyda hunan-leiddiad, a rhai o dan esgymun- dod eglwysig, &c. Dywedai ein bod yn tos- turio wrth yr offeiriaid, fel dynion, ac fel gweinidogion, yn cael eu rhwyiuo (fel y dy- wedent) i'r fathgyfreithiau caethac anghrist- aidd : a phaham nad elent fel coríi' á deiseb i'r Senedd, yn erfyn am symud y gwarth di- raddiol oddiarnynt? Sylwodd fod yn ddrwg ganddo anerch y gynnulleidfa o'r fatìi bellder oddiwrthynt; iuai nid diffyg parch oedd hyn iddynt, ond na feiddiai sefyll i'w hanerch ar y tir a elwid yn gyssegredig; ond fod fyth yn waeth ganddo feddwl fod dynion, a liiblau yn eu dwylaw, yn y pedwarydd can- rif ar bumtheg, yn son am leoedd a thiroedd ryssegredig, gweddillion pabaidd yr oesau uiwyaf tywyll. Nid rhaid i mi adrodd i chwi, Mr. Golyg- ydd, i'r gynnulleidfa ymadael yn llawn an- foddlonrwydd i ymddygiad y Curadiaid, ac i ragfarn a dall-bleidiaeth cyfeiliornus yr Eg- lwys làn Gatholic. Gelyn Erledigaeth. Bro Morganwg, Gorph., 1834. BRAWDLYS MÖRGANWG, RHIFEDI YMNEILLDUWYR AC EG- LWYSWYR ASHTON-UNDER-LYNE. (O'r Alorning Chronicle.) DERBYNIASOM hanes echdoe o Ashton- under-lyne, yr hon a fynegai mai nifer tri- golion y plwyf yn 1831 oedd 33,547; yr eisteddfeydd yn y gwahanol eglwysi acaddol- dai sydd gyfatebol i 14,092 o bersonau ; nifer y gwrandawyr yn gyffredin yw 7,190. Nifer eisteddleoedd yr Esgobaethwyr yw 5,500 ; ac eiddo ygwahanol enwadau Ymneillduedig yw 8,592. Gwrandawiad cyffredin yr Eglwys Sefydledig yw 1,830, ac. eiddo yr Y'mneildu- wyr yw 5,360; oddiwrth yr hyn y canfyddir fod yr Ymneillduwyr yn dri chymmaint a'r Eglwyswyr yn y lle liwn. Nifer ysgolheigion yr Eglwys yw 2,522, a rhif y rhai a berthyn- ant i'r Yinneillduwyr yw 8,619. Yr canlynol sydd gyfrif o'r eistecldleoedd a'r gwrandawyr perthynol i'r gwahauol enwadau. Enwad. Eistedd. Cynnull. Esgobaethwyr ............5500 1830 Anymddibynwyr .......... 1074 820 Wesleyaid ................ 1538 1070 Trefnyddion, Cys. Newydd.. 3780 2550 Trefnyddon, Prif.......... 1000 380 Bedyddwyr Neillduol...... 600 200 Bedyddwyr Cyffrediu ___ 500 320 Etto etto ____ 100 20 14,092 7~Î9Ö Y mae, heblaw hyn, 600 o Gatholiciaid yn y plwyf, ond nid ydynt gynnwysedig yn y rhes hon, am fod eu Capel yu Duckinficìd. A gynnnliwyd, Gorph. 7, 8, 9, 10. Y Barn- wr ydoedd y Gwir Anrhyd. Syr James Parlte. Gosodwyd y carcharorion canlynol gerbron. Richard Jones, oed 41, ain ffugio ysgrif o 33p. lls. 3c. wedi ei gau-arwyddo ag enw John Du.vies, ar Meistrd. Walters, Voss, & Co. gydagamcan i dynu ariantrwy dwyll.—Euog. Alltudiad dros ei fywyd. Cyhuddwyd un John Smith, tyddynwr yn agos i'r Mynydd Du, o ladrata maharen ocldiar J. Jenkins, o Oystersmitli, a dwy ddafad oddiar Daniel Watkins.—Dieuog. John Philip a John John, Llysworney, am dori i dý Kitty Thomas, alltudiaeth dros dymhor a bennodid drachefn. James Chisholm, dyn ieuangc yn nghat- rawd 75, am ladrata 5 penadur, 10 hanner coron, &c. o dŷ W. Rose, tafarnwr yn Nghaerdydd, lle y lletyai.—Euog. Alltud- iaeth dros fywyd. Cyhuddwyd Daniel Jones, Coychurch, o dori tỳ Dafydd Thomas, o'r un lle, a dwyn ymaith 50 ceiniog, 50 dimmai, &c—Euog. Cyhoeddwyd marwolaeth. Eiddigedd.—Morgan Davies, Crudd, 47 oed, o Gadoxton juxtaNeath, a gyhuddwyd o glwyfo ac anafu Elizabeth ei wraig, â phoüer, gydag amcan i'w lladd. Dychwelodd y rheithwyr y farn,—.Euogo anafu gydag am- can i wneuthur niwed corfforol. Alltudiaeth dros fywyd. BRAWDLYS CAERFYrRDDIN. AGORWYD y brawdlys hwn dydd Sadwrn, Gorph. 12. Barnwr, y Gwir Anrhyd. Syr James Parke. Nid oedd fawr o achosion pwysig i'w profi. Y carcharorion canlynol a osodwyd gerbron y llys. David Gunter, John Martin, a Sarah Gun- ter, a gyhuddwyd odori achlwyfo ynfaleisus. ac anghyfreithìon William Price, Llansad- wrn, gydag amcan i'w anffurfio a'i analluogi ef.—Euog. Cyhoeddwyd marwolaeth. Evan Evans, am ladrata caseg, o eiddo John Evans, Glandwr, Llandysul.—Euog. Deuddeg mis o garchar, ac wedi hyny ei alltudio dros ei fywyd. Rhyddhawyd Evan a Mary Rees, y rhai a gyhuddid o ddwyn trwy dwyll 2s. 8c, sef toll Uythyr. Thomas Lewis a gyhuddwyd o yspeilio 30s. oddiar un John Edwards.—Rhyddhawyd. Yrr oedd un Thomas Evans wedi ei ddwyn ymlaen, dan y cyhuddiad o ladd dynes ieu- angc, trwy roddi gwenwyn iddi i'r dyben o beri erthyliad. Ni chafwyd un ysgrif yn erbyn y dyn hwn am lofruddiaeth. Wedi hyn dygwyd amryw achosiou cyf- reithiawl gerbron, y rhai nid yw o bwys i'n darllenwyr yn gyffredin gael hysbysiad o honynt. TRAMOR. YSPAEN. YCHYDIG amscr yn ol tiriodd Don Carlos a'i dculu yn rortsmouth. Wedi i'r teulu brcn-