Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CiItEAL ¥ BEDYDDWYB. Rhif. 90.] MEHEFIN, 1834. [Cyf.YIII. \COFIANT y /■ Y PA|f II, JOHN ROBERTS, GWEINIDOG Y BEDYDDWYH YN DDIWEDDAR Yîî MHWLLHELI, YN ARFOÎÍ. ( Parhad o dud. 132, Cyf. VIII.) -*tr oedd ei aidd ef gymmaint dros ■ y genadiaetli yn Lleyn, fel nad oedd dim a allai wneuthur dros ei llwyddiant yn cael ei esgeuluso; ac y mae yn bur debyg mai syrthio yn ferthyr i'r gymdeithas hon a wnaeth. Ymddengys mai anwyd a gafodd wrth fyned i gyfarfod Ty'ndonen, oedd dechreu ei afiechyd. Yr oedd yn teithio tuag yno ar ddiwrnod dychrynllyd gan eirwlaw a fwriai; wrth fyned dros ryw le amlwg, dygodd y gwÿnt ei het ymaith, ac wrth ymdrechu i'wdaì, o herwydd ei gloffi a llithrigrwydd y ddaear, chwys- odd yn anghymmedrol, adichon iddo gael ei wlychu ar ol hyn cyn cyrhaedd pen ei daith. Ni allodd lafurio ond tuadwy flynedd yn Mhwüheli. Cym- merwyd ef yn glaf, mi debygwn, tua dechreu Rhagfyr, 1830, wrth y geir- iau hyn yn ei lythyr dyddiedig Rhag. 25, 1830, " Yr wyf heb fod yn y capel er ys tair wythnos gan y cryd blin—yr wyf yn bwriadu myned yno y Sabboth nesaf, os gwel yr Arglwydd yn dda." Trodd ei af- iechyd yn ddarfodedigaeth. Ni all- odd bregethu ond ychydig o Rhag- fyr, 1830, hyd ddydd ei farwolaeth. Am ei brofiad yn ei afiechyd nis gwn ond ychydig, heblaw ei fod, o herwydd dideimladrwydd yr ysgyf- aint a sefyllfa ei afiechyd, yn meddwl nad oedd fawr o niwed arno, ac y gwellhäi cyn hir, fel y gwelir y.JŴ^n liosogaf sydd yn marw o'r darfod- Cyf. VIII. edigaeth. Parhaodd i ddysgwyl gwellhad hyd y dydd olaf y bu byw. Nid oes, ar a welaf fi, un niwed i rai feddwl am adferiad iechyd, fel hyn, hyd y diwedd; i eraill, rhaid addef ei fod yn beryglus iawn, os bydd yr enaid yn anmharod i ymddangos gerbron y Barnwr, a'r claf wrth obeithio a dysgwyl ymadr awiad o'i afiechyd, yn esgeuluso ym- ofyn am drugaredd trwy fiydd yn Iesu Grist. Nid fel y morwynion fibl, wedi gadael i'r amser cymmer- adwy fyned heìbio, yr oedd J. Rob- erts, cyn dyfod i'ymofyn am y«peth penaf; nage, yr oedd er ys llawer o flyneddoedd wedi rhoddi ei enaid i'w '* gadw i'r Hwn a ddichon gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw." Dewisodd lawer gwëíl amser i ymbarotoi erbyn angeu nag amser afiechyd. Ceisiodd yr Ar- glwydd yn fore, a chafodd ef. Ei waith dros ei afiechyd oedd dyfeisio a chynllunio y pethau tebygaf i lwyddo achos Duw yn Arfon, a • gweddio am arddeiiad Duw ar y moddion. Hyn oedd amlwg wrth ei ymddiddanion, pan oedd y braẅd S. Williams, yn awr o Ddolgellaií, yn ymweled ag ef dydd Mawrth cyn ei farwolaeth, ac yntef yn marw er ys dyddiau, dywedai, " Wel fý mrawd, mae genyf gynllun i gael etto genadwr i Leyn, deuwch yma ymhen y ddwy awr a mi a'i adroddaf i chwi, nis gallaf gan wendid ddy- 21