Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

—3 GREAL Y B£D¥BDW¥B. Rhif. 86.] CHWEFROR, 1834. [Cyf. VIII. GILDAS. Ma. Golygydd, Yr oedd awydd ynof er ys tro am olwg aryrhen awdwrhwn. Trwy garedigrwydd cyfaill cefais ei fenthyg ynddiweddar allan o lyfrgell gyhoedd Caergrawnt, lle y mae amryw gopi- au o wahanol argraffiadau o hono. Ymddengys mai monach oedd Gil- das, ond i ba fynachlog y perthynai nid ymddengys oddiwrth ei waith ei hun. Gelwir ef Gildas ddoeth. Bod Gildas yr awdwr Brytanaidd henaf ag sydd yn adnabyddus i'r byd dysgedig a rydd foddlonrwydd di- niwed i bob Cymro a gâr ei genedl. Blodeuodd ef yn y 6fed canrif, ni ymddangosodd Ccedmon cyn y 7fed, na Beda cyn yr 8fed. Y mae gwaith Gildas, yr hwn a ysgrifenodd yn Lladin, yn cynnwys o gyleh 90 o dudalenau bychain. Testun y ran gyntaf yw goresgyniad Prydain— (De excidio et conquestu JBritan- nìce.) Dechreua Gildas y ran gyntaf gyda darluniad bywiog o sefyllfa yr ynys, ei masnach, afonydd, adeiladau, &c. Wrth fyned ymlaen at yr amgylch- iadau a gymmerasant le wedi dyfod- iad y Rhufeiniaid yma gyntaf, rhydd ar ddeall i ni ei fod wedi eu cael nid ynllyfrau y wlad honyn gymmaintag o hanesion tramor. Am lyfrau y wlad, os oedd rhai yn hanfodi, dywed idd- ynt gael «hi llosgi gan dân gelynion, neu iddynt gael eu cludo ymaith gan alltudwyr, fel nad oeddynt i'w gweled. Y mae y sylw hwn o eiddo CYF. VIII. Gildas yn rhoddi golwg dra isel ar sefyllfa gwybodaeth ymhlith ein cyn- dadau. Os nad oedd hanesion Bryt- anaidd am yr amser hwn yn adna- byddus i Gildas y mae un o ddau beth yn amlwg, naill ai nad oedd ganddo ef duedd neu gyfleusderau i'w chwilio allan, neu nad oedd y cyfryw yn hanfodi. Y mae dysg- eidiaeth Gildas yn profi nad oedd ef yn ddifFygiol mewn tuedd na chyf- leusderau i wybod pa ysgrifenadau oedd yn hanfodi ymhlith ei wladwyr; a'r canlyniad anhyfryd yw, nad oedd ond ychydig neu ddim hanes- ion yn hanfodi yn y chwechfed can- rif yn eu plith. Os oedd rhai wedi bod, yr hyn yngolwg Gildas oedd yn ammheus ("si qua fuerinf'), rhaid nad oeddynt ond ychydig cyn y gallasent gael eu diddymu yn y modd ag y tybiai ef. Sylwedd yr hanes a rydd Gildas am Brydain, dan y Rhufeiniaid, yw hyn. Wedi goresgyn y wlad, gosod llywodraethwyr arni, a der- byn treth, dychwelodd y Rhufein- iaid. Ymhen ychydig lladdwyd y llywodraethwyr Rhufeinig, a gwrth- ododd yBrytaniaid y dreth. Anfon- odd y Rhufeiniaid fyddin i oresgyn y wlad yr ail waith; yr hyn a wnaeth- ant yn dra hawdd, canys yn lle pa rotoi llongau a byddin i'w gwrthwy- nebu, gorchfygwyd y trigolion gan fraw, ac estynasant eu dwylaw allan i gael eu rhwymo; a'r cymmeriad a gaent ymhell acagos oedd, nadoedd- ent yn íFyddlon yn amser heddwch,