Skip to main content

G-lTEJLEt Y E£»¥DDW¥R, Rhif. 83.] TACHWEDD, 1833. [Cyf. VII. COFFADWRIAETH Y PARCH. DAFYDD JONES, AMERICA. 1 cirosA deimlad prudd yn meddyl- iau llawer o eich darllenwyr i ddysgu fod y brawd anwyl hwn wedi cael ei symud o derfynau y byd hwn. Ymadawodd â'r bywyd hwn ar hwyr dydd Mawrth, y 9fed o Ebrill, 1833, gwedi bod dros amryw fisoedd yn gystuddiedig gan ddolur neillduol. Yn yr haf diweddaf dechreuodd chwydd caled gelynol (malignant) yn y ran chwarenawl (glandular) o'i wddf, yn union dan asgwrn yr aelgerth (maxillary). Tyb meddygon yn fuan a benderfynodd mai cancr ydoedd, ac wedi ei ìëi yn y fath fan fel nad oedd ond gobaith bychan am wellhad. O'r amserhwn ystyriai y brawd Jones ei hunan mal dyn marwol, dyddiau yr hwn oedd- ynt wedi eu cyfrif. Eithr nid oedd yn un brofedigaeth boenus iddo ef i ddwyn ei feddwl i olwg barhaus o'i ddiwedd nesâol. Teimlai ei hun yn barod i ufuddhau i'r amlygiad cyntaf o alwad ei Arglwydd, ac yn unol â hyn cyfeiriai ei feddyliau a'i ymddi- ddanion at y dygwyddiad, yr hwn nid ymddangosai ei fod fawr bellder. Od oedd rhyw beth yn ei gyflwr ef a achosai anesmwythder iddo, hyny oedd y dysgwyliad o ddyoddefaint goh?riol yn nghyfwaith (process) pwyllig cancr difaol. Arswydai yn fawr y meddwl o gael ei ddifa wrth y darnau gan gydysiad (corrosion) chwerw y fath glefyd, a buasai yn dda ganddo pe boddlonawl gan yr , CYF. VIÍ. Arglwydd fuasai rhoddi iddo ryw ddull arall o ollyngdod o'r corff. Ei ofnau, beth bynag, byth ni wir- eddwyd; a'r dyoddefiadau a är- swydai efe wrth ystyried natur ei ddolur, ni theimlwyd ganddo. Y dymchwydd (tumour) a ddaeth yn fawr iawn, ond ni ollyngodd unrhyw sylwedd ar un amser; ac er ei fod yn gwasgu ar y peiriannau (organs) anadlawg a llyngcawl, er hyny nid achosodd iddo ddim cyíTelyb i'r gre- syni a ddysgwyliai efe. I fynu i'r tair neu bedair wythnos olaf cyn ei farwolaeth mwynhaodd lonyddwch cymharol. Ei farwolaeth oedd es- mwyth a thawel. Ar hwyr ei ym- adawiad gofynwyd iddo gan Mrs. Jones i gymmeryd yr esmwythâd ar- ferol, pan am y tro cyntaf y pallodd gymmeryd y dyferion, gan ddywed- yd, " Ei fod ef yn dysgwyl bob awr am idd ei Arglwydd ddyfod, ac ei fod am ei gael yn gwylied." Mewn awr neu ddwy gwedi hyny, ei Ar- glwydd a ddaeth, ac efe yn dawel a soddodd ar ei ddwyfron. Dafydd Jones oedd enedigol o Gymru, o ba le y symudodd i'r wlad hon yn ei ieuengctyd, yn fachgen amddifad, heb gyfeillion na noddwyr daearol. Ar y cyntaf efe a aeth i drigfanu yn un o'r taleithau gor- llewinol, lle y gwelodd yr Arglwydd yn dda ymweled ag ef yn ei drugar- edd, a rhoddi iddo ras adnewyddol. Ei feddwl bryd hyny a argraffwyd 41