Skip to main content

GBEAI Y 15^2*YI>i»%VY U. Rhif. 82.] HYDREF, 1833. [Cyp. VII. TRAETHAWD AR FEDDWDOD; A DDARLLENWYD GEIt GWYDD DIRPRWYWYR ATHROFA Y FENNI, AR DDYDD VII IIOLIAD BLYNEDDOL, MAI 22, 1833. " Drunhenness is a u-ilful madness."—Seneca. "pLÌEDDWDOD yw y cyflwr neillduol hwnw, yn mha un y mae dyn yn colli defnydd a llywodraeth ei alluoedd meddyliawl a chorfforawl i raddau mwy neu lai, o herwydd ymroddiad gormodawl i win, diod gadarn, neu ryw gymmysgedd o'r cyffelyb. Mae meddwdod yn gwneu- íhur i ddynion ymddangos mewn gwahanol ddulliau; gwna i rai ymddangos yn serchog, eraill yn sarug, ac eraill yn dra ffyrnig. Ond fel y gallwyf fanylu ychydig ar y pechod dan sylw, rheidiol ydyw cym- meryd rhyw gynllun o barthed iddo, gan hyny ymdrechaf ddynodi ei achosion ac ei effeithiau. Rhai o'r achosion cyffredin, o ba rai y tardda y drwg hwn, ydynt y rhai canlynol. Un peth ag sydd a tliuedd neillduol ynddo i dynu dyn i afael y pechod gwa- radwyddus dan sylw, ydyw dal cyfeillach i raddau gormodawl â'r rhai ag ydynt wedi ymroddi iddo yn barod. Maent y meddwon yn dangos engreifftiau o'u heiddo eu hunain idd eu cyfeillion, i'r dyben idd eu denu i le y brofed- igaeth; ac wedi eu cael yno defnydd- iant bob moddion idd eu cadw yn foddlongar o ran eu teimladau, dý- wedant wrthynt am brydferthwch, serchawgrwydd, a chariad cyfaill at gyfaill, llymder ysbryd anghyfeill- gar a difrifawl, digrifwch chwareu- CYF. VII. yddiaeth, dymunoldeb natur dda, a îlawer o'r cyffelyb bethau, nes o'r diwedd y mae y dyn sobr yn cael ei ddenu a'i hudo i hoffi cyfeillach y meddwon. Amrai ydynt yr engreiffìt- iau, er ein galar, a ganfyddwn o ffyniant y pechod atgas hwn mewn rhai ardaloedd a threfydd neillduol; ac un o'r rhesymau a roddir yn aml am ei ffyniad yn y cyfryw leoedd yn fwy nâ manau neu leoedd cyffelyb eraill, ydyw fod yno ryw berson neu bersonau, er ys ychydig amser yn ol, yn ddarostyngedig i feddwdod, a bud eu pechod hwy fel cancr wedi ysu eu cyfeillion ac eu perthynasau. Achos arall o ba un y mae y drwg hwn yn tarddu, ydyw yfed diod gad- arn ar amserau nodedig o'r flwydd- yn, o'r wythnos, neu o'r dydd. Aml yr ydym yn clywed am bersonau nad ydynt byth yn meddwi ondtair gwaith yn y flwyddyn, megis mewn rhyw dair o ffeiriau a gynnelir yn y gym- mydogaeth; clywir am eraill eu bod yn meddwi ddwy waith yn yr wyth- nos, sef dydd Mawrth a dydd Sad- wrn yn y farchnad; ac am fath arall, eu bod yn feddw bob prydnawn ar ol ciniaw. Eithr mynych yr ydym yn clywed am fath arall o ddynion, y rhai a ddechreuasant yfed yn lled gymhedrol, ond yn awr a feddwant bob dydd, a phob awr o'r dydd, os gallant gael moddion addas i'r per- wyl hwnw. Eraill a syrthiant dan 37