Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CURHAIi Y BEDYDDWYR, Rhif. ify 1 <\ GORPHENHAF, 1833. [Cyp. VII. TRAETHAWD AR URDDASOLRWYDD SWYDD ATHRAW YSGOL SABBOTHOL, A ddarllenwyd ger gwydd Dirprwywyr Athrofa y Fenni, ar ddydd yr Holiad blyneddol, Mai 21, 1833. "A'r doethion a ddysgîeiriant fel dysgleirdeb y ffurfafen; ar rhai, a droant lawer i gyfiawn~ der, a fyddant fel y sér byth yn dragywydd."—Daniel. ith fyfyrio ar arwyddion yr amseroedd, meddyliasom rhai gweithiau pe byddai i'r Ysbryd Glân, fel yn yr amser gynt, neillduo deu- ddeg o ddynion i orphen drwyddynt y gwaith mawr o ddychwelyd peeh- aduriaid, ac i'r dyben hwn eu cyf- eirio at ryw foddion pennodol, buasai i sefydliad a chynnydd beu- nyddiol yr Ysgol Sabbothol gym- rneryd rhan fawr o sylw. Ni amcanwn trwy yr arnod hon fych- anu dim ar y cynlluniau godidog a ífurfiwyd yn ddiweddar gan ddyn- garwch, y rhai a amcanant at ym- helaethiad cyffredinawl teyrnas Ëm- manuel. Edrychwn arnynt oll gyda hyfrydwch a chymmeradwyaeth di- ffuant. Canfyddwn y Bibl Gym- deithas yn dosparthu i fyd euog y gyfrol hòno oddiwnrth orsedd Duw, yr hon sydd abl i wneuthur dynion "yn ddoeth i iechydwriaeth." Y Gymdeithas Genhadol yn ymarllwys ei ffrwdlifoedd o oleuni nefol ar ddwfn dywyllwch eilunaddoliaeth a choelgrefydd baganaidd. Cym- deithas Traethodau yn gwasgaru ei chýhoeddiadau dilais lle nad yw y pregethwr bywiol byth yn alluog i fyned. Cyfarchwn hwynt yn llawen fel cydweithwyr yn y gorchwyl mawr o efengyleiddio dynolryw, a CYF. VII. phrysuro gwawr gogoniant y mil blyneddoedd. Wrth edrych ar y rhai hyn, a sef- ydliadau o'r fath, pob un yn ym- symud yn ardderchog yn y blaen yn ei Iwybr neillduol o ddefnyddioldeb, fe all y gwerth a roddasom ar bwys- fawrawgrwydd yr Ysgol Sabbothol ymddangos i gael ei gynhyrfu gan ddall-bleidiaeth a mympwy cyffroed- ig. Eithr ni bydd y dyb hon ond yn brin i'w gweled pan ystyrir yr effeithiau moesawl rhyfeddawl y mae y sefydliad hwrì etto i'w har- ddangos, wrth ddwyn ymlaen y ddau ddyben mawr hyn o eiddo y lywod- raeth ddwyfol, gogoniant Duw a lles dyn. Annichonadwy i neb un ddiystyru yr Ysgol Sabbothol a ardystiodd ei gweithrediadau byw- iawg ac eiddiawl. Ei hegwyddorion ydynt mor benderfynawl ysgrythyr- awl, ei hysbryd mor gyffredawl (catholic) a hygar, ei dybenion mor bwysig a dyrchafedig, a'r bendithion a gyfrana ydynt mor lliosog, mor rasol, ac anmhrisiadwy, fel y mae y dyn hwnw i'w dosturio, pa beth bynag yw ei enwad, ei amgyffred- ion, a'i sefyllfa, a fyddo yn anfodd- lon i ddod ymlaen i gymmeryd y swydd bwysig hon arno o fod yn athraw ynddi, os bydd yn fedd- 25