Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<; It i:A I Y BEDYDDWIR, Rhif. 77.] MAI, 1833. [Cyf. VII. BYWYD Y DIWEDDAR BARCH. R. HALL, A. C. (PARHAD 0 TU DAL. 68.) PR rhagored galluoedd meddyliol *J Mr. Hall,nid esgeulusai eu gwr- teithio trwy fyfyrdod dyfal dros rai blyneddau. Wedi ei sefydliad yn Nghaergrawnt, neillduai ran o bob dydd ì ddarllen gweithiau beirdd, hanesyddion, areithwyr, a philoso- phyddion Groeg a Lladin. Meith- rinai yn ei flyneddau diweddaraf adnabyddiaeth â'r hen awduron clodwiw yn y ieithoedd hyn; ond nid oedd un o honynt ag y soniai am dano gyda chymmaint o bleser a chanmoliaeth a Phlato; ymhelaethai yn fynych ar olygiadau y philo- sophydd hwnw ar rinwedd a dryg- ioni, seguryd a diwydrwydd, ac ar ei ddarluniad o addysgu, yr hyn a ddywedai fod yn gynnwysedig mewn "addasu dynion i fod yn ddinas- yddion da, a'u parotoi i lywodraethu neu i ufuddhau." Ond ni chyfyngai ei ddarlleniad at yr awduron profedig (classical), eithr darllenai yn ofalus y prif awduron o bob oes ag oedd yn dal perthynas mwy uniongyrch- ol â gwrthrych ei fywyd, sef y weinidogaeth, megis y tadau, y diwygwyr, duwinyddion puritanaidd ac eglwysig yr ynys hon, ynghyd ag eiddo Ffraingc. Yn Nghaer- grawnt dysgodd Hebraeg, ac nis gadawoad wedi hyn nemawr o ddydd i fyned heibio heb ddarllen rhyw ran o'r Hen Destament yn y iaith wreiddiol. Yn ei arferiadau ydddiol yn Nghaerodor, ychydig lII. VII. cyn ei farwolaeth, ar ol gweddi deuluaidd yn y boreu, yr oedd yn darllen rhan o'r Bibl Hebraeg. Mor fanwl a pharhaus yr oedd wedi myfyrio yr ysgrythyrau yn y ieith- oedd gwreiddiol, fel yr oedd yn fwy cyfarwydd â hwynt yn y gwreiddiol nag mewn unrhyw gyfieithiad.* Y mae y modd y darparai y pre- gethwr hyawdl ac anghymarol hwn ei bregethau, yn dangos y gallu a feddai i sefydlu ei fyfyrdodau ar wrthrych, ynghyd a grym ei gof. Yr oedd y dolur yn ei gefn ag y bu dros ei fywyd yn ddarostyngedig iddo i fesur mawr yn ei analluogi i ysgrifenu heb lawer o boen; ond medrai nid yn unig drefnu prif ddrychfeddyliau, a'r adraniadau perthynol iddynt yn ei feddwl, ond hefyd ystyried yn b ennodol yr eglurhad, y testunau, a'r rhesymau a ddygai i gadarnhau unrhyw haer- iad, neu i wasgu adref unrhyw gym- hwysiad, dan bob rhan neu adran o'r anerchiad, ac hyd y nod ddewis y rhanau ymadrodd a'r geiriau, o ddechreu hyd ddiwedd y bregeth, a'u galw i gof ar unrhyw bryd yn *Yr oedd y wybodaeth a feddai> ynghyd a'i alluoedd a'i ymdrechiadau i'w chyflwyno, yn ei wneud yn deilwng o'r gradd o D.D. â'r hwn y cynnysgaedd- wyd ef gan brif Athrofa Aberdeen, yn y flwyddyn 1817. Oud gan fod ganddo wrthwynebiad cydwybodol i'renw Doctor niewii Duuinyddiaeth nis defoyddiodd ef 17