Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<; Itl] 11, Y BEDYDDWYR. Rhif. 76.] EBRILL, 1833. [Cyf. VII. BYWYD Y DIWEDDAR BARCH. R. HALL, A. C. (PARIIAD O TV DAL. 68.) ■^S7"edi pregetliu amryw fisoedd yn ^* Nghaergrawnt, cydsyniodd â gwahoddiad yr eglwys, a sefydlodd yn eu plith yn y fl. 1791. Y ìlythyr ymha un yr amlygodd ei gydsyniad sydd fel y canlyn:—" Anwyl frodyr, yr wyf yn wir deimladwy o'r anrhyd- edd ag ydych wedi ei ddangos i mi, trwy fy ngwahodd i gymmeryd y swydd weinidogaethol yn eich plith. Gwn fy mod yn analluog i gyflawni yn briodol y dyledswyddau pwysig a berthynant iddi: ond, gan orphwys ar eich tynerwch chwi, a gobeithio am gynnorthwy gwell, mi a'i amcanaf hyd eithaf fy ngallu; ac yr wyf yn crefu rhan yn eich gweddiau, ar fod fy ymdrechiadau er eich lles ysbryd- ol yn llwyddiannus, ac i mi gael fy ngalluogi i ganmol fy hun wrth bob cydwybod dynion yngolwg Duw." Ymddengys llaw Rhagluniaeth yn symudiad Mr. Hall i'r sefyllfa new- ydd hon. Yr oedd ansawdd ei olyg- iadau, yr hyn, ynghyd a chamsyn- iadau yn cyfodi o wahanol achosion, a wnelai ei barhad fel cyd-lafurwr i Dr. Evans yn annymunol, ynhytrach yn ei addasu i'r weinidogaeth yn Nghaergrawnt. Yr oedd y gwein- idog ag oedd wedi llafurio dros lawer o flyneddau o'i flaen, sef yr enwog Robinson, wedi gwyro i fesur helaeth oddiwrth egwyddorion efengylaidd, ac wedi dwyn ei hun, ynghyd a rhan fawr o'r gynnulleidfa, yn agos i Sosiniaeth a digrediaeth, er fod CYF. VII. amryw o bersonau yn galaru o her- wydd y cyfnewidiad. Barna y rhai a adwaenent yr amgylchiadau, na fuasai gweinidogaeth Mr. Hall yn dderbyniol gan y gynnulleidfa, er ei holl dalentau a'i hyawdledd, pe buasai ef yr amser hwn mor efengylaidd ag oedd ychydig amser wedi hyn, a thrwy ei holl flyneddau diweddaf: etto yr oedd y r amser hwn mor belled oddiwrth Sosiniaeth ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, canys testun y bregeth gyntaf, wedi cymmeryd arno y swydd weinidogaethol, oedd athrawiaeth yr iawn, ynghyd â'i thueddiadau ym- arferol. Ni fu heb beth amlygiadau o anfoddlonrwydd oddiwrth rai o bleidwyr Robinson: ar ol y bregeth daeth un o honynt ato i'r wisg-gell, a dywedodd wrtho, " Mr. Hall, ni wna y fath hyn o bregethu y tro i ni; nid yw yn addas i neb ond cyn- nulleidfa o hen wragedd." Gofyn- odd Mr. Hall iddo, " A ÿdych chwi yn cyfeirio at y bregeth, neu yr ath- rawiaeth?" " Eich athrawiaeth." " Paham nad yw yr athrawiaeth yn addas i neb ond i hen wragedd?" " Am y dichon fod yn addas i bobl yn crymu ar ymyl y bedd, ag ydynt yn taer geisio diddanwch." " Diolch i chwi, Syr, am eich cyfaddefiad; nid yw yr athrawiaeth yn addas i bobl o unrhyw oed, os nad yw yn wir; ac os yw yn wir, y mae yn addas nid yn unig i hen wragedd, ond i bobl o bob oed." 13