Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CÄrwl » J$*frj?fefrlii;gi% Rhìf. 42.] MEHEFIN, 1830. [Cyf. IV. SEFYDLIAD, Trefhj a Uysgyblaeth Eglwys dan y Testament Newydd. tYNGHOR l R EGLWYSI I NODÜI A DWYN YN MLAEN HEDDWCH. (Párhad o dudal. 138J "Býddwch dangncfeddus yn eich plith eichhurtain," (iThes. 5. 13.) sydd gyng- hor Apostolaidd, yn gyfFelyb i'r hwn am- ryw ereill a ellid ddwyn ger bron. Mae iieddwch i gael ei noddi a'i ddwyn yn mlaen trwy bob moddion, yn mhob Eg- Iwys, ac yn mysg yr holl Eglwysi bob aẁser. Mae pob peth ond cydwybod dda a gwirionedd i gael ei röddi i fynu er mwyn heddwch, gan fod cysur personol a Hwyddiant cyffredinol yn anwahanadwy oddiwrtho. Gelyn pob heddwch, yn en- wedig o hwn, yw Satan, a dylai yr Eg- Iwysi bob amser fod ar eu gwyliadwriaeth rhag ei ddichellion, rhag iddo gael y fan- tais arnynt. Mae y cynghorion aml i'r ddyledswydd hon yn y TestamentNewydd, yn dangos y pwysigrwydd cyssylltiedig â'r weithred yn nghrefydd ymarferol a phrofiadol y Cristion. Bydded i'r Eg- Iwysi, a holl aelodau yr Egiwysi, dremio yn f'anol i'r ystyriaethau rhybuddiol a gan- lynant, o barthed i'r ddyledswydd bwysig bon. Ystyriwch fod torriad heddwch yn beth i'walaru yn fawr o herwydd eì ganlyniad- au. Mae chwerwder pechod yn cael ei deimlo yn alaethus, yn fnan neu yn hwyr, lle byddo lieddwch wedi cael ei ddinystrio. Pan fyddo gwahaniaethau ac anghydfod yn cyfodi ac yn parhau, pa galon-losg- feydd! pa ragfarnau! pa ddrwg-dybiau tywyll! paeiddigedd melldigedig! pa ym- ryson cyhoeddus, a sibrwd dirgel, maent yn efíeithio ac yn feithrin! Dyweda Iago wrthym, "Lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred j Cyf. IV. ddrwg." (Iago 3. 16.) Mae geiriau, íe, geiriau cyfFröawl, yn cael eu llîosogi, yn mha rai ni bydd ball ar bechod. Lle byddo heddwch yn trigo, mae pob peth yn cael ei derfynu àg ychydig eiriau; ond lle byddo hwn yn eisieu, mae gan yr hus- tingwr, neu y clepgi, ddigon o waith, a'r gwefusau traws a lefarant ormodedd o eiriau. Pan gyinmero anghydfod le, ffurf- ir pleidiau, cenhedlir ymraniadau, a threu- lir llawer o amser mewn cynnadleddaa anffrwythlawn a llid-weithiol. Pan gyf- arfyddant i ymddadlu o barth eu hanghyd- fod, bydd tymher a rhagfarn yn blaenori* geiriau angharedig yn cael eu llefaru; goganiadau creulon yn cael eu taflu yn erbyn rhai, a phob gair, ac edrychiad, a gweithred yn cael eu gŵyr-droi i'r ystyr gwaethaf; a thrwy hyny mne y rhwygiad- au yn cael eu hëangu, yu hytrach nâ'u hadgyweirio. Bydd y pleiciiau yn mwy- hau eu creulondeb; yr Iachawdwr yn caei ei gondenmio; yr Eglwys yn cael ei pheryglu; a Satan yn cael pethau wrth ei fodd, fel y dymunai iddynt fod. Y can- lyniad fydd i rwygiad gymmeryd lle, er gofìd i'r didwyll a'r tawel; er Ilawenydd i'r drygiouus; ac er gwangalondid mawr i bawb ag ydynt wrthddrychau argyhoedd- iadau difrifol, ac yn "gofyn y ffordd i Si'on," <SlC. Pan y dynesant at yr Eg- lwys, maeut yn ei chael yn fl'au o ysbryd- ion drwg, yn annedd yr hen sarph y diafol, yn hytrach nâ chymdeithas o saint» a gorphwysfa Duw yr heddwch; wrth yr hyn y synant tuhwnt i fesur, ac y rhwyst- rir hwynt yn y ffordd. Myfyriwchary '21