Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<3*r*al » lîrî>t»îiîiuii,n\ Rhif. 41.] MAI, 1830. [Cyf. IV. BYWGRAFFIAD IMEiss MART LEWIS, O FLAENAFON, Swydd Fynwy. " Coffadwri»eth y cy fiawn sydd fendigedig." GANWYD Miss Mary Lewis yn y fiwyddyn 1751, yn Mlaenafon, o deulu cyfrifol a chyfoethog, a derbyniodd addysgiadaa anghenrheidiawl, yn gyfat- tebawl i'r moddy cyfranid dysgeidiaeth yn y dyddiau hyny. Yn ei hieuengctyd yr oedd yn ymhyfrydu mewn boneddigeidd- rwydd, ac yn ofalus i rodiaw llwybrau gweddeidd-dra, ac i gadw allan o gyfeill- achau annuwiolion.—Yn ngbyradeithas y dawnsyddion a'r taplasau ni welwyd mo lioni; a chyda chablwyr ac yn mhiith cclwyddwyr ni wnelsai ei harosfa. Ei hymddygiadau moesawl a sobr oedd yn ddywenydd i bawb a gaent yr hyfrydwch o gydgyfeillachu â hi. Nid oedd balchder wedi cael Ile i breswylio o fewn ei chalon; ac er ei bod yn feddianuol ar lawer o gyf- oeth y byd hwn, etto, nid oedd yn ystyr- ied ei hun uwchlaw cyfeillachu â thlodion ei chymmydogaeth, a dangos ei haelioni tuag at y cyfryw. Amlygodd ei bod yn feddiannol ar ymysgaroedd tyner, trwy gyfranu at eu hanghenion mewn amgylch- iadau cyfyng. Yr oedd yn hynod o hael- ionus tuag at achos Duw a'i gènadon, ac yn hoíF ganddi gyfranu at ëangu'r wybod- aeth am Grist croeshoeliedig, cyn erioed iddi gael ei tbueddu i gofio ei Chreawdwr. Ond o'r diwedd, trwy drugaredd, ni chaf- )dd lonydd yn ei meddwl, heb ymofyn am Grist yn geidwad, a chodi'r groes i ganlyn lachawdwr y byd; a phan oedd tua deu- jain oed, bedyddiwyd hi ar broffes o'i îydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, ac edi- 'ehwch am bechod yn erbyn y Duw byw, jan y Parch. James Lewis, Llanwenarth, le y bu yn aelod hardd, fuddiol, a duwiol Cyf. IV. weddill ei dyddiau: a chadwai ei lle yn ddiargyhoedd, mal y gweddai i bawb a bröffesant dduwioldcb. Yn yr amser hyn, trwy sefydliad gweith- feydd haiarn o amgylch ei thiroedd, cyn- nyddodd ei chyfoeth bydol i raddau mawr- ion o ran gwerth: etto da gènyf fynegi am y chwaer dduwiol hon, er idd ei cbyf- oeth bydol gynnyddu, ni wnaeth, fal y gwna llawer, anghofio Duw wrth fod y byd yn gwenu arni. Na, nid cyntìyddu mewn balchder a hunan-dyb a wnaeth, ond pa fwyaf oedd ei chyfoeth yn hel- aethu, mwyaf i gyd oedd ei haelioni tuag at achos Duw, a'i weision, a thlodion yn gyffredinol. Ni chauai ei dôr yn eibyn yr ymddifaid, a'r gweddwon, ond yr oedd bob amser yn barod i wrando eu cwyn- fanion, a diwallu eu hanghenion. Nid bychan y galar a deimlir ar ei hol- flyny- ddau lawer i ddyfod, a'r golled a gafwyd trwy ei mynediad i ffordd yr holl ddaear. Y mae yn ddiddadl taw hawdd yw i'r» trigolion yn gyffredinol yn Mlaeuafon, ddywedyd na welir ail iddi yn llauw ei lle yn y gymmydogaeth. Yr oedd y wraig hyglod hon, yn chwaer i'r diweddar Walter Lewis, o Gwm Llan- wenarth, swydd Fynwy, a modryb y Walter Lewis* Ysw. presennol, o'r un He, yr hwn sydd foneddig hynaws a thyner tuag at drigolion ei gymmydogaeth. Geili ugeiniau o bregethwyr sydd yn fyw hedd- yw, yn enwedig yn mhlith y Bedyddwyr, yr Anymddibynwyr, a'r Trefnyddion, ganmol caredigrwydd a haelioni Miss Lewis am ei rhoddion at eu Haddoldai; a gallant dyttio idd ei thý fod yu n»ddfa 17