Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&rtai n &ŵ$wwm** Rhif. 36.] RHAGFYR, 1829. [Cyf. III. SYwaRArriAD Y DIWEDDAR RARCH. EVAN EVANS, Gweinidog y Bedyddwyr Cymreig yn Llundain. 4 (PARHAD Ò TUDÀL. 324.) Tua mis Chwefror, 1803, aeth i ddilyn ei alwedigaeth, sef dwfrhau tir, i le o'r enw Rhôs-fawr, plwyf Llan- fyllon, gerllaw Llanfyllin* swydd Drefaldwyn. Ymol'ynodd ar hyd yr ardal ani le i bregetbu, a'r cyntaf a agorodd ei ddrws iddo oedd un John Llwyd, Tyddyn, Cwm Llanfyllon. Agorwyd wedi hyny ddtysau ereill iddo, sef Glan-y-IIyn, a Phen-y-garn- edd. Byddai ynpregethu yn y lleoedd hyn bedair neu bum waith yn yr wyth- nos, a Hawer iawn yn gwrando, hyd ddiwedd Mai y flwyddyn hòno, pryd y dychwelodd adref i blwyf Rhiwabon; ond parhäodd i fyned yno wedi hyny bob tair wytbnos, am hir amser; a pharhäodd y gwrandawyri ddyfod yn nghyd5. Ar y 12fed o Cliwefror, 1803, bedyddiwyd pump yno, ac ereill wedi hyny, nes oeddynt yn un ar ddeg cyn pen y flwyddyn. Yn mis Mai, 1802, daeth Evan Evan8 i bregethu i Ben- sarn, gerilaw i'r Cefnbychan: bu yno ddwy waith. Gofynodd un Simon Bowen, oedd yn byw yn y Cefnmawr, iddo, a ddeuai i bregethu i'w dŷ ef; yntau a gydsyniodd â'i gais, ac aeth yno ar yr amser pennodol, yn ol ei addewid. Bu efe yu pregethu yn y lle hwn tna blwyddyn, ac yna bedydd- iwjrd pump ar un waith, a dwy wraig yn fuan wedi hyny. Nid oedd Evan Evans wedi ei ordeinio gan neb i wekii ordinhadau, ac nid oedd efe yn gofalu dim am hyny, ond ystyriai fod galwad yr ychydig frodyr oedd gan- ddoyn gwneud yr holl dditìyg i fynu; ac felly parhau yr oedd i fedyddio a thorri bara, nes y dechreuodd rbai o'r aelodau a myned yn anesmwyth, oble- gid eu bod hwy fel Eglwys beb ei chotpholi, ac yntau fel gweinidog beb Cyf. III. ei ordeinio. Nid oeddynt yn blino af eu hanymddibyniaeth, ac etto nid oeddyntyn gallu meddwl fod pob peth iuor weddaidd a rheolaidd ag y dylas- ai fod. Am hyny peidiwyd torri bara yn mhen tua blwyddyn, hyd nes y cafodd yr Eglwys ei chorpholi, ac yntau ei ordeinio. Y modd y cawsant hyny oddiamg,y!ch oedd fel y canlyn: Fel yr oedd y peth ag a fu yn achos o ymadawiad Evan Evans oddiwrth y M'Leaniaid, fel eu galwent eu hunain, yn aros heb ei symud, nid oedd wiw meddwl am fyned yno; aç fel yr oedd heb fod yn gwbl o'r un farn a'r hen Fedyddwyr,fel eu gelwid, yr oedd yn ddigon digalon i wynebu yno hefyd; ond pa fodd bynag, ys- grifenwyd Ilythyr, ac anfoiiwyd Evan Evans yn gèuad i'w gario i Gyfarfod Trimisol oedd gan yr hen íedyddwyr; ac wedi hir daerni, llwyddwyd i gaeí bod yn aelod o'u cymdeithas fel Cwrdd Trimisol. Daeth y Brodyr Tbomas Jones, Llangollen, a Joseph Richard, Dolgellau, i Lanfyllin, a chorpholwyd hwy, a'r brodyr oedd y.n y Cefnmawr, plwyf Rhiwabon, yn Egfw^s, Ebrilí 5ed, 1804. Cawsant eu derbyn yn. aelod o'r Gymmanfa yn Amlwch y flwyddyn hòno. Yn Llanfyllin yr ystyrid fod corph yr Eglwys y pryd hyn, a'r Cetnmawr fel cangen bellen- ig o honi: eu nifer rhwng y ddau le oedd 24ain. Wedi cael eu corpholj a'u derbyn i'r Gymmanfa, rhoddasanj: fath o ail alwad i Evan Evans i'r weinidogaeth yn eu plith. Daeth y Brodyr Christmas Evans, Môn, Tho- mas Jones, Llangollen, a Jòseph Richard, Dolgellau, i Lanfyllin, ac ordeiniwyd ef yn rheolaidd i waìth cyflawn y weinidogaeth, Gorphenhaf 4ê