Skip to main content

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif. 10.] HYDREF, 1827. [Cyf. I. PARHAED BRA WDGARWCII." COFIÂNT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM GRIFFITHS, Gweinidog y Bedyddrcyr yn Tabor, Dyfed* R. W. GRIFFITHS ydoedd fab i Mr. D. Grifliths, ac Elfsabeth ei wraig; ganwyd ef yn y flwyddyn 1759: yr oedd ei dad yn by w yr amser hwnw yn y tyddyn a elwir Treddafydd, yn mhlwyf Maenorowen, Dyfed, ond a symudodd i'r tyddyn a elwir Tre- wrach, plwyf Abergwaun, pan oedd gwrthddrych y Cofianthwn ynchwech nilwydd ocd; yn yr hwn le y bu efe yn trigo hyd nes ei symud gan angau oddiwrth ei deulu anwyl, a'r praidd aml oedd dan ei ofal. Cafodd ei ddwyn i fynu mewn symlrwydd, a'i hyííorddi yn addysg ac atbrawiaeth yr Arglwydd yn ei ieuenctyd. Nid wyf yn gwybod pa Ie, na chydâ pwy y bu yn yr ysgol, oblegid ni chlywais mo hono ef, na neb arall, yn dweyd gan bwy y cafodd ei ddysgeidiaeth; ond gan nad pa lc y cafodd ei ddysg, gwn ei fod ynfwy o ysgolhaig nâ'r cyll'red- inolrwydd o ddynion, oblegid yr oedd yn adnabyddus iawn yn holl ganghen- au dysgeidiaeth. Cyfrifid ef yn un o'r dynion mwyaf synwyrol yn ei gym- niydogaeth \. am hyny byddent arferol o ymgynghori âg ef, yn mhob achos o bwys. Pan yn 2Gain oed, priododd Margaret, merch Mr. —>----- o Gil- shafe, plwyf Abcrgwaun, o'r hon y cafodd ferch, yr hon sydd etto yn fyw, yn nghyd â'i mhain, i alaru ar ei ol. *Mevvnllythvi at Gyfaill. CYF, 1. ' Yn y flwyddyn 1798, (er ei fod o'r blaen yn ddyn o ymddygiad moesol a diargyhoedd) díreth i adnabod ei gyf- Iwr truenus fel pechadur; ac wedi gweled o hono ogoniant y drefn rasol o achub pechadur, a gogoniant Mab Duw yn ei swyddau cyfryngol, pen- derfynodd mai ei ddyledswydd oedd ufyddhau i ordinhadau santaidd yr efengyl, a gwneyd arddeliad cyhoedd o Fab Duw yn ngwydd y byd : ac ar ei brofles bersonol o'i flydd, bedydd- iwyd ef yn Abergwaun, yn ngwydd nifer luosog o dystion. Nid hir y bu Mr. G., wedi ei dderbyn yn aelod, cyn dechreu o hono gyhoeddi y ' newydd- ion da o lawenydd mawr' i'w gyd- deithwyr tua'r byd tragywyddol. Yr athrawiaeth a gyhoeddai oedd yn dderbyniol iawn ; a thra mawr y cyn- nyddai ei ddoniau ; a rhyfedd y tyrfa- oedd a fyddai yn ei wrando yn ei gyinmydogaeth ei hùn. Yn yr amser hwn yr oedd tŷ-cyfar- fod yn rhànog rhwng y Trefnyddion Callinaidd a'r Bedyddwyr, yn Bryn- henllan, plwyf Dinas ; ond fel yroedd doniau Mr. G. yn cynnyddu, rhifedi ei wrandawyr yn lluosogi, ei weinid- ogaeth yn Hwjrddo i ennill pechadur- iaid, a Hawer yn dweyd, " Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig?" cafodd y Bedyddw}rr eu cauad allan o'r tŷ crybwylledig, ac ni chawsant fyned iddo fyth ar ol hyny. Ond yfl lle 38