Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GREAL Y BEDYDDWYR. Rhif. T.] GORPHENHAF, 1827. [Cyf. í. "PARHAED BRAWDGARWCH" COFIANT T UIWHDDAR EARCH. CALEB XZAH.XtXS, Llamoenarth, Swydd Fynwy. OAN T DIWEDDAR BARCII. JOSHUA THOMAS, O LANLLIENI. GANWYD Mn Caleb HarrIs yn Castellnewydd yn Emlyn,swydd Gaerfyrddin. Bedyddiwyd ef oddeu- tu y ílwyddyn 1738, ac unodd âg cg-^ lwys y Bedyddwyr, yr amser hwnw dan ofal gweinidogaethol y gwr cn- wog hwnw, y diweddar Barch. Enocb Francis, tad y diweddar Barchedigion Jonathan Francis, o Penyfai, swydd Forganwg, a Benjamin Francis, A. C. o Horsley, swydd Gaerloyw. Bed- yddiwyd Caleb Harris a Jonathan Francis yr un pryd. Symudodd Mr. Harris yn lled fuan ar ol hyny i'r Feni, yn swydd Fynwy, Ue sefydlodd, a chafodd ollyngdod i eglwys y Bedydd- wyr yn Llanwenarth, yn agos i'r dref hòno. Yr oedd yn ddyn ieuanc tra difrifol, sylweddol, a gobeithiol; a Ilwyddwyd gydâg ef i ymarferyd ei ddoniau mewn flordd brofedigol, oddeutu y flwyddyn 1742. Yn Chwefror, 1742-3, bu farw y Parch. Roger David, gweinidog Llanwenarth; ac oddeutu chwech wythnos ar ol hyny gwelodd Duw yn dda i wneyd rhwygiad arall, drwy farwolaeth y Parch. William Mere- dith, yn nghylch pedwar ugain oed, yr hwn a fu dros amryw flynyddau yn gynnorthwywr Uafurus a theilwng, ac yn help rhyfedd o dderbyniol yn y weinidogaeth yn mysg amryẅ gang- henau yr eglwys, y rhai, yn ei amser ef, oeddynt dra phell oddiwrth eu Cyf. I. gilydd, ond wedi hyny a gorfíblwyd yn eglwysi gwahanol; etto, y fath oedd ei wŷlder fel nas gcllid ei ber- swadio i gymmeryd ei urddo ! Yr oedd yr eglwys yn ystyried Mr. Harris yn rby icuanc yn y wcinidog- aeth yr amser hwnw i gymmeryd y gofal bugcilaidd; o ganíyniad, rhodd- asant alwad i'r Parch. Thomas Ed- wards i sefydlu yn eu plith, a chyd- syniodd yntau a'u cais. Yr oedd efe yn ddyn ieuanc hynod o garuaidd, ac yn aelod o eglwys y Blaenau. Fel hyn yr oeddynt drachefn wedi eu eynnysgaeddu yn ddedwydd h gwein- idog, a Mr. Harris yn ei gynnortliwyo ef. Yr oedd Mr. Edwards yn breg- ethwr rhagorol, o dymher addfwyn, ac o ymarweddiad anghreiíftiol; ond yr oedd ei iechyd yn anmharu yn ffèst, ac yn addfedu yn gytìym i fyd gwell. Gorphenodd ei waith a'i filwriaeth yn haf 1746, yn 34ain oed. Yr oedd y diweddar Barch. Miles Edwards, o'r Trosnant, gerllaw Pontypool, yn fab iddo. Yr oedd Mr. Harris wedi bod yn ymarferyd ei ddoniau gydâ derbyniad dros oddeutu pum mlynedd, ac yn awr deisyfodd yr eglwys arno dderbyn y gofal gweinidogaethol; gydâ'i wŷlder arferol efe a gydsyniodd â'u cais; a pharhaodd i gyflawni yr ymddiried a gyflwynwyd iddo, cyd ag y daliodd ei ncrth corfforol, yr hyn a fu oddcutu