Skip to main content

ŴBEAL Y BEI>YI>I>WYIS. Rhif. 118. HYDREF, 1836. Cyf. X. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. DR. CAREY. Gwn, fy nghydwladwyr, na fydd yn beth beichus genych ddarllen hanes y gwr enwog a gwiwglodus hwn, Dr. William Carey. Dilys genyf na wnawd cofnodiad erioed o deilyngach a ffyddlon- ach gwas i Grist nà gwrthrych y Cofiant hyn, yr hwn a lwyr ymroddodd ei galou i waith ei Brynwr, yn benaf draw i'r mòr, ymhlith rhai estronol. Yno yr agorodd ag allwedd cyfieithad ddoraullyfr Duw i blant India, ac y safodd yn wrol ar furiau Síon, i wasgaru gair y by wiol bren i deulu clwyfus y wlad boethlyd hòno. Y gwr haeddbarch hwn a anwyd mewn pentref o'r enw Paulerspury, swydd Northampton, Awst 17, 1761. Ei dad oeddysgôl-feistryn y pentref uchod ; trwy yr hyn y cafodd William ddysgeidiaeth wledig mor belled a nemawr o'i gydradd- olion. Yr oedd er yn foreu wedi cael ei ddwyn i ymarferyd darllen Uyfrau o gym- meriad crefyddol, a berthynent yn benaf i'r eglwys sefydledig, trwy yr hyn yr oedd ei feddwl wedi cael ei dtlodrefnu i raddau pell á gwybodaeth ysgrythyrol. Ond am grefydd brofiadol, ni chafodd glywed braidd ddim, nes oedd yn bedair ar ddeg oed, yn ol ei dystiolaeth ei hun. Oddeutu yr amser hyn gosodwyd ef o dan gyfarwyddyd un o'r enw Clarke Nieholas o Hackleton, i ddysgu bod yn grydd. Yn y gelfyddyd hon yr oedd Carey yn gorfod myned, (fel y rhydd ef hysbysiad ei hun) â'r gwaith adref i'r bobl ar foreuau Sabbathan. Rhoddaf yma yr hanes a rydd o hono ei Uun. 4< Fy meistr Cyf. X. oedd yn eglwyswr tỳn iawn, a'r hyn ag oeddwn i yn olygu yn dra moesol. Mae yn wir ei fod ar brydiau yn yfed i ormod- edd, ac yn aml yn fy rhoddi i ar waith o gario adref nwyfau ar foreuau Sabbathau yn agos hyd amser eglwys. Yr oedd yno gyd-was â mi, mab i Ymneilldnwr, â pha un yr oeddwn i yn anil yn dadleu; eg- lwyswr oeddwn i y pryd hyny, ac yn ed- rych gyda salwedd ar yr Ymneillduwyr. Yr oedd lle o addoliad bychan gan yr Ymneillduwyr yu y pentref hyny; er nad oeddwn i un amser yn rayned iddo: a theimlwn gymmaint o elyniaeth ag y gwnelswn eu llwyr ddiuystrio oll pe gall- aswn. Yn yramser hyn cafodd fy nghyd- was ddychweliad cyflawn, ac ymnnodd á'r achos bychan hyny. Trwy ei ymdrecli barhaus ef yn fy nghyngori, ac yn rhoddi i mi bob llyfrau crefyddol a allasai, teiml- ais anesmwythder meddwl, a'm harch- waeth a gynnyddai fwy fwy at bethau efengylaidd, nes oeddwn dan yr angen- rheidrwydd o ymofyn yn rhywle, am daw» elwch mynwes. Pendefynais fyned i'r eglwys ddwy neu dair gwaith y Sabbath, aci gyfarfoil gweddiyr Ymneilldiiwyr yn yr hwyr, gan feddwl y buasai liyn yn ddi- gon i roddi tawelwch i-fy nghydwybod aflonydd ; pendeifynais hefyd i roddi heibio anwireddu, tyngu, &c, i'r hyn bethau yr oeddwn yn dra thueddol. A phan oeddwn wrthyf fy hun yradrechwn weddio; ond yr oedtlwn ar y cwbl yn dra anwybodus o ddrygter fy nghalon, a'r angenrheidrwvdd am Waredwr. " 36