Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CUMBAIi Y BEDYDDWTB. Rhif. 115. GORPHENHAF, 1836. Cyf. X. DARLITH AR FUDDIOLDEB UNDEB RHWNG Y MEISTR A'R GWEITHIWR, Yr hon a draddodwyd ger gwydd Cymdeithas Cymmreigyddion Caerludd, ar y òed o Fai, 1836. A R ddymuniad unfrydol y cyfarfod, addawais ddanfon y Darlitli uchod i'w gyhoeddi yn eich Greal ysplenydd ; os gwelwch ef o werth y raae at eich gwasau- aetli. Foneddigion,—Gwybyddus a phrof- adwy ydyw, mai deddf gyfansodd y byd- ysawd yw gwasanaethgarwch un idd y liall. Nid caufyddadwy blaned na seren, haul na lloer, yn nghrouglwyd y nen nad ydynt yn wasanaethgar un idd y llail; os yn fy meddwl-ddrych y syll-dremaf dros wyneb ein byd ni, a gweled ei fynydd- oedd cribog, ac ei glogwyni tympathog ; a syllu oddiyuo ar ei ddyffrynoedd llydain gwyrddlasiog, ei goedydd talfrigog, yng- hyd ag ei foroedd weilgiaidd, a'i afon- ydd gorlifog, canfyddaf hwynt oll fal uu corfF lluniaidd, yn wasanaethgar yn eu holl aelodau un idd y llall; ac oll er llcs- iant a buddiant dynolion pedwar ban byd. Cydweithrediad gwasanaethyddawl holl aelodau corff y bydysawd iddeu gilydd, yn ol rheolau ei ddeddf gyntefig, sydd wir foddus gan Ion gwiwlan nef. Felly rhwyddach canfod fod teulu dyn wedi eu creu idd y perwyl yraa. Y rhes- wm feddiannaut a ddengys hyn : hwn ni fedd a wel ein llygaid ond dyn! Dyn alluoger i wahaniaethu gwrthrychau oddi- wrth eu gilydd vn ol eu teilyngdod ac eu Cyf. X. gwerth, ac nid yn ol eu lliw a'u llun ; dyn grewyd ar ddelw Crëydd creadigaeth; felly medda ef serch a weithreda dan re- olaeth rheswm, i gofieidio gwrthrychau teilwng o honynt eu hunaiu ; gwybyddus hefyd nad ydyw dyn heb feddu teimladau bywiog, y rhai a redant yn ffrydiau gor- lifawl at y gwrthrych fyddo mewncyf- yngder, caledi, ac angen, er ei gym- mhorth a'i waredigaeth brydlawn. Os, trwy deithio gwahanol gyrau y byd, y dygwydd i'm gyfarfod yr adyn bwystfil- aidd fyddo â'i deimladau wedi eu haiarn- eiddio, ac ei dosturi mor gallestraidd nas teimla, ac ei lygaid mor wydraidd nas gwlithiant pan sylldrema ar galedi brawd a brodor ein byd, fal na weinydda rin- wedd dyugarwch ato, rhyddid na rodder idd y fath anghenfil, gyrer ef ymaith i all- tudiaeth aunwn i barotoi Ue idd y blaidd gwancus Rwssiaidd, Ue y cânt y Pwyliaid eu gwynfyd yn attaliad ei greulonderau iddynt, am nas gwasanaethent eu cyd- ryw. Peth arall brawf y ffaith bod dyn- olion wedi eu bwriadu i wasanaeth eu gilydd yw trefniad y greadigaeth gan Ion, Ue y gwelir profiou anffael o'i ddoethineb yu hyn. Y byd a ranwyd yu ddosparthau —cyfandiroedd acyuysoedd,trwy y llynau weilgiaidd a diderfyn. Rhauodd ein Naf eilchwyl y mwnau idd v gwahanol fanau 24