Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OREAIi Y BEDYDDWYR. Rhif. 111.] MAWRTH, 1836. Cyf. X. CYFRYNGDOD CRIST. TTTN o brif byngciau yr athrawiaeth ef- engylaidd ydyw Cyfryngdod Crist» sef sefyllfa swyddol, gwaith, ac effaitb cyfryngdod ein Harglwydd Iesu Grist, fel yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion. Y mae yr enw Cyfryngwr yn golygn un wedi ei ddewis, ei osod, ac wedi cym- meryd arno sefyll rhwng gwabanol ber- sonau neu bleidiau, naili ai i drosglwyddo meddwl neu ewyllys y naill blaid i'r llall, fel yr oedd Moses yn gyfryngwr i dder- byn cyfraith Duw; yr hon a gynnwysai ei ewyllys foesol ef, a'i thraddodi i ddynion, fel creaduriaid rhesymol a deiliaid cyf- rìfol ei lywodraeth, i ddysgu i ddyn ei holl ddyledswydd tuagat ei Greawdwr a'i gyd-greadnr: Gal. 3. 19. nen fe olyga yr enw Cyfryngwr berson mewn sefyllfa o ymddiried, i ofalu am, a throsglwyddo yn ffyddlon drysorau ewyllys y naili blaid i'r Hall: ac yn yr ystyr olaf y golygir' ein Hiachawdwr, pan ei gelwir ef yn Gyfryng- wr cyfammod gwell; Heb. 8. 6. ac yn Gyfryngwr y Testament newydd ; Heb. 12. 24. Yma y gwelwn ein Ceidwad yn wrthrych ymddiried y Tad, am drefn a sefydliad yr oruchwyliaeth efengylaidd; a sicrhad ei benditbion mawrion i holl wrthrychau yr addewidion. Pan y nodir ein Hiachawdwr bendigedig fel un, nen yr wnig Gyfryngwr rhwng Dnw a dynion, yn l Tim. 2. 5., golygir ef, nid yn unig dan bwys yr ymddiried uchod, ond hefyd Cyf. X. yn heddychwr nen yn gymmodwr Duw a dynion : a pheth rhy ddwfn a mawr i neb ond y Duw unig-ddoeth, oedd cael allan drefn a pherson ag a fedrai ddwyn i ben ei aracan rasol yn y pwngc pwysig hwn, heb ddarostwng na gwneuthur cam 'na cholled i'r naill blaid na'r llall. Nid oedd eisiau cyfryngwr rhwng Duw a dyn cyhyd ag y daliodd dyn ei uniondeb a'i berffeithrwydd creadigol: canys yr oedd dyn y pryd hyny ar ddelw ei Gre- awdwr, mewn undeb dedwyddol â'i Gre- awdwr, ac mewn sefylifa addas i ddal cymdeithas â'r Bod a'i gwnaeth ef, yn ol ei radd a'i angen, yn gyfatebol i'w alluôedd i fwynhau cyflawnder dedwyddwch syl- weddol, heb raid am gyfryngwr. Y mae yn wirionedd mai trwy ei Fab y creodd Duw bob peth, ac mai trwyddo y mae ei Fawredd yn cynnalpob peth,—yn gystal elfenau, bydoedd, anifeiliaid, dynion, ac angeliou; ond yn y cymmeriad o Air nerth Duw, ac nid dan y cymmeriad o Gyfryngwr, y mae ein Harglwydd yn sef- yll fel Crewr a Chynnaliwr y greadigaeth. Nid yw Cyfryngdod Crist ychwaith yn dal unrhyw berthynas angenrheidiol. i gyfiawnhau gweinyddiad coll-farn ar yr annuwiol yn y dydd mawr a ddaw.; canys nid yu y cymmeriad o gyfryngwr, ond fel Barnwr o ddwyfol ordeiniad, y trefr.a efe achosion holl wrthryohau ei ymweliad yn y dydd mawr hwnw: ac nid ar y sail o'i fod ef wedi cyfryngn am