Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŴHEAIi Y BEDYDDW¥B. Rhif. 104.] AWST, 1835. [Cyf. IX. EGLWYS SMYRNA. ■\T Manteision a ddeilliant i ni oddiwrth ■*■ y datguddiad dwyfol yut dra lluosog ac o uchel werth. Un o honynt yw, ei fod yn son cymmaint am gymmeriadau, rhinweddau, a gweithrediadau y duwiol- ioa gynt, fel y gallom, wrth gydmharu ein hunain â hwy, gael cyfle i wybod a ydym yn feddiannol ar y cyrhaeddiadau hyny a'u gwnaethant hwy mor enwog a defnyddiol ynybyd hwn, ac mor wynfydedig yn y byd •arall. Sicr yw fod gwir grefydd, o ran egwyddorion ac effeithiau, yr un ymhob oes, ac ymhob calon a'i meddianno. O ran amgylchiadau a goruchwyliaethau, mae wedi cyfnewid llawer ; ond o ran ei liysbiyd parha fel eu Hawdwr—yn ddi- gyfnewid. Pe meddyliem rliagor am ddiwydrwydd saint y goruchaf yn yr amser a fu, rhyfeddem fwy yn ngwyneb ein segardod ein hunain; a phe ystyriem yu ddwysach y dull tawel, ymostyngol, ac amyneddgar, yn mha uu yr aethent trwy ycyfyngderau mwyaf celyd, y profedig- aethau mwyaf tanllyd, a'r dyoddefiadau mwyaf arteithiol, nis gallem lai nà chy- wilyddio wrth feddwl am yr ysbryd an- toddlongar a grwgnachlyd, yr hwn yn rhy fynych a'n llywodraetha ni. ' Pa bethau |>ynag a ysgrifenwyd o'r blaen, er addysg 1 n» yr ysgrifenwyd hwynt.' Yr epistolau °yrion, ond tra chynnwysfawr, cynnwys- e(Ug yn y bennod hon a'r uu ganlynol, a anfonwyd gan Ben yr eglwys, trwy law Io«n, at weinidogion y saith eglwys ag Cyf. IX. oeddent yn Asia leiaf,ergosod ger eu bron eu rhinweddau a'u ffaeleddau, fely bydd- ai iddynt ymlynu wrth y cyntaf, ac ym- ochelyd yr olaf. Ymddengys fod rhyw beth yn y gwahanol gymmeriadau, dan ba rai yr oedd Crist yn anerch y gwahanol eglwysi crybwylledig, ag oedd yn dra chyfatebol i amgylchiadau y naill a'r llall o honynt. Fel engraifft,—beth allasai weinyddu mwy o wir ddiddanwch i'r eg- iwysagoedd yn ninas Smyrna, yr hon oedd mor agored i erledigaethau, carcharau, a merthyrdod, nâ chael clywed fod yr hwn ag oedd yn dyoddef er ei fwyn, er bod unwaith yn farw, yn awr yn fyw. Os oedd rhai o honynt yn gorfod "ym- drechu hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod," yr oedd eu Blaenor wedi marw o*u blaen. Ac os oeddent mewu perygl o gael eu hymddifadu o wasanaetli- garwch rhai o'u cyd-filwyr, trwy syrthio o honynt yn ysglyfaeth i ddwylaw an- nhrugarog y blaid wrthwynebol, digon i loni eu meddwl yn wyneb hyn oedd cael clywed fod lesic yn fyw. Bernir yn gyff- redin i'r eglwys Gristnogol yn Smyrna gael ei phlanu trwy offeryuoldeb yr apostol Paul, yn yspaid y ddwy flynedd ag y bu yn byw yn Ephesus. Dywedodd ei hun ddarfod iddo' lenwiefengyl Crist o Jerusalem, ac o amgylch hyd Ilyricüm, a diuas Smyrna a orweddai rhwng y lleoedd hyny. Y llythyr hwn a wahaniaetha oddiwrth y lleill, ant lia chyunwysa un 29