Skip to main content

ORILUL Y BEDYDDWIB. Rhif. 103.] GORPHENHAF, 1835. [Cyf. IX. COFIANT Y DIWEDDAR JOSEPH DAVIES, BARDD CYMDEITHAS GYMMREIGYDDOL GLYNCORWG, A MAB THOMAS DAVIES, ARGOED, YN SWYDD FYNWY ; MARWOLAETH YR HWN A YMDDANGOSODD YN NGREAL MAI, 1835. TOSEPH DAVIES ydoedd y pedwar- edd blentyni'rrhag-ddywedigThomas Davies a Gwenllian ei wraig, a'r ieuangaf o bedwar. Ganwyd efyn Glynceiriog, swydd Dinbych, yn Ngwynedd, mewn tyddyn o'r enw Caeocin, Tachwedd 4, 1814. Ei gyfansoddiad yn faban a ym- ddangosodd yn llesg a gwanaidd, yr hyn a berai i'r rhai a'i hadwaenai farnu nad oedd i fod yn hiroedlog ; er hyny cyn- nyddai yn raddol, a phan yn bedair blwydd derbyniodd addysg yn yr Ysgol Sabbathol yn Llangollen, a chofiai adnod- au a phennudau yn rhagorach ua'i gyfoed- ion. Cyfodid ef ar y ford yn yr addoldy i adrodd pennillion. Dyma un o'i hoíF bennillion, " Mi dafla maich i lawr yn llwyr, Wrth gofio angeu loes," &c. Derbyniodd addysg hefyd yn foreu mewn addysgle yn ddyddiol, a chynnyddai yn fwy nà'r cyíFredin mewn darllen, ysgrif- enu, a rhifyddiaeth. Pan yn bura mlwydd oed symudodd Thomas Davies a'i deulu i r Argoed, yn swydd Fynwy. Ychydig cyn symud o'r Gogledd cafodd Joseph Davies y frech goch yu drwm, fel yr oedd yn anghymmhwys i daith mor faith; ond cychwyn y wnawd gyda'r cerbyd, gan ddysgwyl trangc y llangc bychan bob <tydd, ond yn lle gwaethygu gwella a wnaeth ar ac wedi y daith. Ar ol tyfod i'r Argoed, rboddwyd Joseph a'i rawd Samuel mewn ysgol wythnosol. nes Cyf. IX. y daethant i oedran llaugciau yn gyffredin i fyned i'r gwaith glo. Felly bu ei frawd ac yntef yn blant ufudd a gwasanaetbgar i'w rhieint. Megis y mae rhyw bethau yn hynodi pob dyu, mewn da neu ddrwg, felly nid oedd Joseph Davies heb ei ragoriaetb.au; ac wrth ddywedyd am ei rinweddau pell ydwyf o ddysgwyl i neb gredu nad oedd beiau i'w canfod yn nghwrthrych y Cofiant hwn, eto credaf y tystia y cym- mydogion a'i hadwaenai ef, eu bod yn llai nag mewn Hawer o'i gyfoed. Ond am ei ragoriaetb.au rhinweddol, oeddent fel y canlyn. Yn gyutaf, yn newisiad ei gyfeillion. Nid ymhoffai yn nghymdeithas y meddw- on, ytyngwyr a'r ymladdwyr, gadawai ef lonydd iddynt hwy, ac yntef a gaffai lonydd ganddynt hwythau; ond ei gyfeill- iou ef oeddynt y llangciau prydfertb, sobr, difyrgar, myfyrgar, llawen, a dini- wed ; amrai o honynt a dystiant y dŷdd hwn, mai efe oedd eu prif gyfaill hwy, ac mae hwythau oeddent ei gyfeillion yntef. Yn eu plith hwy y treuliai oriau hirnos gauaf, wrthynt hwy y dywedai ei feddwl, ac yn eu plith hwy yr ym- ddangosai yn llawen ac uwchlaw gofid ; rhai o'i gyfeillion a ymddangosent megis gweddwon ar ol dydd ei farwol- aeth. Peth arall a'i hynodai ar rai, bod yn ddiweniaeth a di-dderbyn-wyneb; 25 " *