Skip to main content

ŵral » lir&t>îiîiUîm\ Rhif. 61.] ÌONAWR, 1832. [Cyf. VI. BŸWGRAPPIAD V FAR.CH. PHILLIF JAIWSS. " Y Cyfíawu fydd byth mewn coffadwriaeth." R. PHILLIP JAMES a anwyd yn 1664, yn nihlwy Llandilo-Talybont, swydd Forganwg, ond ar gyffin swydd Gaerfyrddin ; a dywedîr mai nnigblentyn ei riaintoedd, y rhai oeddynto'r Grefydd Sefydledig. Bwriadasant, ac addysgasant ef i'r Eglwys; ond cyn iddo gymmeryd urddau, efe a gafodd achos i gyfnewid ei farn, a daeth yn Ymneillduwr a Bedydd- iwr. Meddylir i hyn gymmeryd lle oddeu- tu y flwyddyn 1684 neu 1685, pryd y rhaid fod ei ragolwg o ddyfod yn Anghydffurfiwr yn hynod o dywyll a digalon. Yr oedd ei rieni hefyd wedi digio yn ddirfawr wrtho yn yr achos; a phan welsant nas gallasent ei droi ef oddiwrth ei amcan, na'i ddarbwyllo i ymlynu wrth Eglwys Loegr, ymddygasant yn chwerw iawn tuag atto. Mor lleied a hyn oedd gan- ddynt o barch i hawl dyn i fainu drosto ei hun, neu ddyledswydd dyn ieuangc, ac ymgeisiwr am y weinidogaeth, i chwilio a phenderfynu drosto ei hun, yn materion pwysig crefydd! Dywedir fod eu dig- llonrwydd wedi eu dwyn mor bell a'i droi ef o'r diwedd allan o'r tỳ, a thystio na cbymmerent ychwaneg o sylw o hono. Mor fawr yr ymddengys fod eu sêl dros yr Eglwys, a'u casineb at yr Ymneill- duwyr, ac yn enwedig at y bobl hyny a elwid yn Ail-fedyddwyr. Gwedi iddo gael ei Iysu a'i ddiarddel fel hyn gan ei rieni, ar gyfrif ei egwy- ddorion crefyddol, ymddengys iddo yn fuan adael y wlad, a gwibdeithio can bell- ed a Llynlleifiad, lle bu fyw dros rai blynyddau; y rhan fwyaf o ba amser a dreuliodd gyda gwr boneddig o feddyg, yr hwn oedd yn Fedyddiwr. Yma arwein- ìwyd ef yn naturiol i fyfyrio physygwr- laeth, o'r hyn y cyrhaeddodd gryn wybod- Cyf, VI. aeth, a pharhäodd iddei arferyd o hyd ar ol hyny, gyda bri a llwyddiant; ac ar y cyfrif hyny gelwid ef yn gyffredin Doc- tor James. Oddeutu amser y Chwildröad, neu yn fuan ar ol hyny, efe a ddychwelodd yn ol iddei le genedigol, ac yn fuan dech- reuodd bregethn, mewn cyssylltiad ág Eglwys y Bedyddwyr ag oedd yn ym- gynnull yn Abertawe a lleoedd ereill, o'r hon, mae yn debygol, yr oedd yn aelod cyn ymadael a'i wlad. Pa beth a achlys- urodd ei ddychweliad, nid yw yn wybod- us. Gailai fod ei rieni wedi ymheddychu âg ef, a'i wahodd i ddychwelyd yn ol; neu fe ddichon eu bod wedi meirw, a bod eu meddiannau yn dyfod iddo, a bod hyny yn galw am ei bresennoldeb yn y wlad. Pa fodd bynag yr oedd hyny, ymddengys ei fod yn wresog yn ngwaith y weinidog- aeth, yn yr hyn y parhâodd yn ddidawl gyda Ilawer o dderbyniad a bri haedd- iannol. Ar ddechreuad ei weinidoaaeth yn Abeitawe, a'r parthau cymmydogaeth- ol ar gyffiniau swyddi Morganwg a Chaer- fyrddin, yr oedd ganddo yn gydweinidog, yn mysg amryw ereill, y tra theilwng a chyf'rilol Morgan Jones, yr hwn ar ol hyny a fu yn brif weinidog yr Eglwys. Efe oedd dadcu (neu daid) y diweddar Dr. Morgan Jones,» Hammersmith. Bu Mr. Philüp James dros rai blynydd- au yn dra gweithgar a llafnrus yn mhtith y Gweinidogion Cynneig; ac ymddengys ei fod yn cael ei garu a'i barchu yn fawr ganddynt a'r hollrenwad, Yr oedd hefyd yn mysg y rhai a bennodid i bregethu yn y Cymmanfaoedd Blynyddol; gorchwyl ag oedd yn cael ei gyflwyno yr amser hwnw yn unig i'r pregethwyr a ystyrid y mwyaf derbyniol, synwyrol, ac enwog.