Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

emi ö mh®hìitom* Rhif. 49.] ionaWr, i8ai. [Cyf. V. BYWGRAFFIAD* V DIWEDS&R 3ARCH. THOMAS TBOMAS, PECHIIAM, LLUNDAIN. 1 lu no former year has there been an aocount given [IN the BaPTIST MAGAZIME] of amanof more Bterling worth." EDITOB. YR oedd Mr. Thomas yn fab i'r di- weddar Barch. Timothy Thomas, o'r Maes, swydd Gaerfyrddin, gweinidog yr Efengyl yn Aberduar, ac awdwr y llyfr a elwir y Wisg Wen, a rhai llyfrau ereill. Ganwyd ef ary 5med o Fawrfch, 1759. Yr oedd er yn blentyn o ymddygiad hardd a moesol, yn meddu tymher lariaidd, ac yn wrthddrych argraffiadau difrifol: arferai weddio yn gyhoeddus yn y teulu pan oedd yn dra ieuangc. Treuliodd y rhan fwyaf o ddyddiau ei ieuengctyd yn yr Ysgolion; a'r tair blynedd olaf y bu yn trigo yn Nghymru gyda'r ysgolaig rhagorol hwnw, y diweddar Barch. D. Davies, o Gastell- Howel, dan ofal yr hwn y cynnyddodd yn fawr mewn dysgeidiaeth. Bedyddiwyd a derbyniwyd ef jm aelod o eglwys Aber- dnar yn mis Mawfcih, 1776, pan oedd yn 17eg oed. Yr oedd yr eglwys y pryd hyny dan ofal ei ewythr, y diweddar Barch. Zechariah Thomas, a'r Parch. David Davies. Yn mhen ychydig fìsoedd wedi iddo gael ei fedyddio, efe a ddech- reuodd bregethu yn yr eglwys a'i chang- henau, gyda chryn dderbyniad. Oddeutu canol mis Mawrth, 1777, efe a aeth gyda'r diweddar Barch. D. Davies, a enwyd uchod, trwy y Gogledd : buont ar eu taith ddeugajn niwrnod; a phregethasant odd- eutu dri ugain o weithiau. Nid oedd ond dau wedi myned o'u blaen trwy Ogledd Cymru, sef y diweddar Barchedigion. D. Evans, o'r Dolau, a Morgau Evans, Pant- * Cymmerwyd By wgraffiad Mr. T. allan o'r Bap- Hst Mâgazine, am Iouawr, 1820; a'i Bregeth Anir- laddol, ganDr. Newman, &c. ac o Hancs y Bcd- yddwyr, sydd heb ei argraífu. Cyf. V. y-celyn. Yn mis Gorphenhaf, yn yr un flwyddyn, 1777, ar annogaeth yr eglwys efe a aeth i Athrofa y Bedyddwyr yn Nghaerodor (Bristol,) ag oedd y pryd hyny dan ofal y Parchedigion Hugh a Chaleb Evans, a James Newton. Yr oedd y Parch. Robert Hall, A. C. yn awr o Gaerodor, yn un o'i gydfyfyrwyr. Yno efe a fyfyriodd er llawer o fantais iddo ei hun hyd yr haf yn 1780, pryd y gadawodd yr Athrofa ; ac wedi treulio ag9s iflwydd- yn gydag eglwys y Bedyddwyr yn Per- shore, ar ol marwclaeth eu gweinidog, y Parch. John Ash, LL. D. awdwr Ieithad- ur Saesneg (Ash's English Grammar) efe a ordeiniwyd yn weinidog iddynt, íiwy weddi a gosodiad dwylaw, gan ei ewythr henaf, y Parch. Joshua Thomas,Llanllieni, awdwr y gwaith gorchestol hwnw Hanes y Bedyddwyr. Pregethodd y Parch. Cal- eb Evans, D. D. ar ei ddyledswyddmewu modd tra dwys a difrifol. Yn Hydrefy flwyddyn 1781, priododd Mr. Thomas, â merch ieuengaf'Mr. Mose- ley, diacon tra tbeilwng o eglwys Heol Cannon, Birmingham. Gwedi treulio o hono saith mlynedd yn Pershore mewn cymmeriad difrycheulyd, aeth sefjilfa ein cyfaill ymadawedig yn anghysurus o achos dadl anedwydd rhwng dau deulú-cyfriíol perthynol i'r gynnull- eidfa, rhag yr hon yr ymdrechodd efe gadw hyd ag oedd ynddo, gan ofni mai ymraniad fyddai y canlyniad, yr hyn yn wir wedi hyny a gymmerodd ie, efe a farn- odd mai doethineb oedd iddo ymadael. Tua diwedd 1787, efe a ymwelodd â'i gyfeillion yn Llundain, a phregethodd