Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Y Cyjìawnhad Mawr. " Agos yw yr hwn a'm cyfiawnha:" ~Esay 1. 3. Ye oedd adgyfodiad ein Harglwydd yn gyfiawnhad arno. Trwy ei adgyfodi, dangosodd Duw Dad mewn gweithred ei fod yn ei rydd- hau fel yr oedd yn sefyll yn feichiau pecliadur ; ac yu ei hollol gymeradwyo fel un wedi t&lu, ynllwyra llawn, y gofyn mawr oedd arno. Priodolir ei adgyfodiad i'r Ysbryd Glan. aci mai yr Ysbryd oedd y gweithredydd yn mywhad ei goríF. Á dywed Pedr, " Ei fywhau yn yr Ysbryd ;" ond dywed Paul gyda golwg ar yr un am- gybhiad yn ddiammheu, "A gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd." Eglur yw, gan hyny, fod ei fywhad, neu ei adgyfodiad, yn gyfiawnhad arno. Gallwn olygu y geiriau a osodwyduwch ben y traethodyn hwn, yn cynnwys cysur a hyder y Oyfryngwr benaigedig, pan yn mhoeth- der a dyfnder ei ddyoddefiadau mawrion. A rhoddai hyfrydwch mawr, a hyny yn gymysgedig â theimlad dwys, ond odid, i un a'i dilynai yn ei fyfyrdod, o le i le, yn ei helbulon chwerwon yn ei oriau olaf; gan dybio ei glywed yn dywedyd yn y naill fan a*r llall, " Agos yw yr hwn a'm cyfiawnha." Dacw ef yn Gethsemane, a gallesid dywedyd wrtho, " Beth y w y dyrfa acw, Iesu mawr ? Dacw hi yn dyfod i lawr o'r ddinas at afon Cedron, a thyma hwy dros yr afon rhyngddynt ag yma hefyd ; mae ganddynt lusernau, maent yn chwilio am rywbeth neu rywun—mae ganddynt arfau hefyd, maent i'w gweled yn dysgleirio yn llewyrch y lanternau. Mae 'n debyg iawn fod Judas wedi gwneyd ei waith, ac mai dyfod i'th ddal di y maent." " Digon gwir," fel pe atebasai yr Iesu, " dyfod i'm dal i y maent, ac yn fuan iawn byddant wedi fy nal a'm rhwymo. Ond y mae un arall yn efFro, a'i lygaid arnaf fi ; ac os rhwymant hwy fi, gollynga ef fi 'n rhydd ; ac mae yntau ar droed —wedi cychwyn, ac nid yw bell, ond, ' Agos y w yr hwn a'm cyf- iawnha.'" A cher bron y rhaglaw, pan y traddodwyd ef i'w groeshoelio, gallesid dywedyd wrtho yno, "Wel, Iesu mawr, mae cydwybod Pilat yn dy wedyd wrtho dy fod yn un diniwed, ac y dylai yntau dy ollwng yn rhydd gan hyny, a'th gyfiawnhau : ond, mae iddo ef fod yn ddyn poblogaidd, ac yn enwedig iddo fod yn ŵr cyfrifol gyda'r gwýr mawr, yn dywedyd wrtho y rhaid iddo dy gollfarnu ; ac ni fedd Pilat mo'r uniondeb a'r gwroldeb duwiol hwnw sydd anghen- theidiol er peri iddo wrandaw ar lais cydwybod, yn hytrach nag ar íais hunan a llais y bobl. Felly, Iesu anwyl, ni chei di mo'th gyf- 'awnhau ganddo ef." " Digon gwir hyn hefyd; ond mae 'r hwn sydd yn edrych ar ol fy achos i, yn unionach ac yn uwch o ddigon na Philat, ac yn eithaf annibynol ar bobl a thywysogion ; a phan ddel «fe, bydd iddo fy nghyfiawnhau. Ac yn dd'iau mae yn nes yn awr nag oedd yn Gethsemane. Erbyn hyn nid yw neppell, ond " Agos yw 3 r hwa a'm cyfiawnha." Hydrep, 1848.] l