Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. 7 Collfamiad maior. " Ac ara bechod a gondemniodd becbod yn y cnawd." Yr oedd marwolaeth yr Arglwydd Iesu yn gollfamiad arno. Tiwy oddef iddo gael ei roddi' i farwolaeth, addefodd Duw ruewn ym- ddygiad fod pechod yn cael ei roddi yn ei erbyu. Ar sail y cyfám- mod tragywyddol yr oedd hyn ; yn mha un y cymerodd ein Har- glwydd arno sefyll yn feichniydd pechadur ; ac o ganlyniad, golygid ef yn sefyll yn neddfle pechadur; ar y llanerch—ar yr ysmot y safai y pechadur arnynt. Ni waeth dywedyd pechadur yn y cysylltiad hwn, na phechaduriaid: oblegid ni buasai dim llai nag a wnawd gan Iesu Grist yn ateb dros un pechadur, ac nid oes eisieu dim ychwaneg dros fyd o bechaduriaid ; mewn gwirionedd nid oes modd bod ychwaneg, canys y mae'r hyn a wnaed yn anfeidrol. Ond pa fodd bynag, elai yr Iuddewon ymlaen gydag euogfarnu ein Hiachawdwr, a'i roddi i farwolaeth; gan broflèsu eu bod yn gwneuthur hyny o herwydd camymddygiadau y cafwyd ef ei hunan yn euog o honynt. A Duw trwy oddef y cyfan, yn dywedyd yn ei ymddygiad ; " Yr wyf fi yn eich gweled chwi, Iuddewon, ac yn eich clywed hefyd ; yr ydych chwi am i bawb gredu eich bod yn ei roddi ef i farwolaeth, o herwydd camweddau y mae ef ei hunan yn euog o honynt; ond y gwir yw, nid oes ynddo nac anwiredd na bai, Oen difeius ydyw! a phe byddech chwi yn eich deall eich hunain yn iawn, ei fod ef mor berffaith ddifai sydd yn peri eich bod chwi mor elynol iddo. Mae ei sancteiddrwydd ef, yn enwedig gan ei fod yn ymddangos yn gyhoeddus fel athraw i'r bobl, yn tywynu mor danbaid, fel y mae yn dangos eich ansaneteiddrwydd chwi mewn lliw adgas iawn ; a hyny sydd yn cynhyrfu eich gelyn- iaeth mor angerddol yn e: erbyn." Ònd, fel pe buasai Duw yn ychwanegu, " Gan eich bod chwi yn dewis myned ymlaen fel hyn, chwi a gewch fyned ; gan eich bod chwi yn dewis felly. Ni buaswn i byth yn eich cymheìl i hyn trwy unrhyw ddylanwad, llawer llai eich gorfodi; ond gan eich bod yn dewis gwneyd, chwi gewch fyned ymlaen a gorphen, oblegid y mae peth yn bod rhyngof fi ac yntau nad ydych cnwi yn gwybod dim am dano, ag syddyn galw am i nü oddef iddo gael ei drin fel yr ydych chwi yn chwennych gwneuthur. Gan hyny, ni luddiaf chwi yn eich gwaith ag yr ydych' mor effro gydag ef; ond gwybyddwch y galwaf chwi i farn am hyn oll, °blegid fel y mae yr achos yn sefyll rhyngoch chwi ac yntau, rhoddi y difeius, y difrycheulyd, a'r cyfiawn i farwolaeth y bydd- wch. Gwaed gwirion a fradycha Judas, a hwnw a dywelltwch chwithau. Gwae fydd i chwi, o fod y gwaed hwn yn llefaru yn eich erbyn." Felly, ymlaen yr aethant hwy: a daliwyd, collfarnwyd, a chroes- ûoeliwŷd yr Iesu, a rhoddwyd ef i farwolaeth; ac felly yr oeid' Duw mewn ymddygiad, trwy oddef, yn ei euogfarnu. Mtoi, 1848.] . K