Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Marwólaeth Crist. Yir marwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist, fe gyfarfyddodd pedwar peth na chyfarfuasent erioed o'r blaen, ac nid oe? eisieu iddyntgyf- arfod eto. Un yn marw heb haeddu roarw. Y cyíìawn yn marw— y diddrwg. y dihalog, y didoledig oddiwrthbechadumid, yr hwn ni wnaeth bechod, yr hwn nid adnabu bechod. Wele beth newydd ar y ddaear—un yn marw heb haeddu marw !—un yn marw a allasai beidio marw, Tywysog y bywyd yn marw, etifedd pob peth, yr hwn ni thybiodd yn drais fod yn ogyíuwch â Duw, yn ufudd hyd angeu, îe angeu y groes! Ar ol iddo fyned i ddwylaw ei elynion, nid gwendid oedd yr achos iddo farw : " Aydwytti yn tybied nas gaìl- af yr awrhon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe arydd i mi fwy na deuddeg lleng o angelion." Yr aicrhon, wedi myned i ddwylaw ei elynion, a rydd, nid efe a allai wneyd, ond efe a wnai: ar ewyllys Crist yn unig yr oedd y cwbl yn ymddibynu. Un yn marw yn wirfoddol, ac ar yr un pryd pob dichell a bradwriaeth, gormes ac anghyfiawn- der, yn cael ei ddefnyddio i'w roddi i farwolaeth—yn cael ei frad- ychu a'i werthu gan un, ei brynu gan eraill; rhai yn myned allan â lanternau a lampau ac â chleddyfau i'w ddal, eraill yn chwilio am gau-dystiolaeth yn ei erbyn, a'r lliaws yn gwaeddi, " Croeshoelia ef, croeshoelia ef;" eto efe ei hun yn cymeryd ei ddal o'i fodd—yn myned i gyfarfod ei elynion o'i fodd, yn cymeryd ei gollfarnu yn wirfoddol; yn nghanol y trais mwyaf o ochr ei elynion, yr oedd y parodrwydd mwyaf o'i ochr ef; ac ni bu erioed yn fwy ewyllysgar na phan ddefnyddiwyd mwyaf o drais tuag ato. Ond mae rhyw beth yn eisieu eto i esbonio y fath farwolaeth a hon—pa fodd y cymerodd y fath farwolaeth a hon le yn llywodraeth Duw. 0 holl gwestiynau dyrus y byd, hwn fyddai y mwyaf tywyll, oni bai fod rhywbeth pellach i'w ddywedyd. Fe ellir esbonio marwolaeth yr angelion y ì'hai ni chadwasant eu dechreuad—yr oeddynt yn haeddu marw. Gellir esbonio marwolaeth dynion—rhai yn haeddu marw ydynt. Ond dyma un yn marw heb haeddu, un yn marw a allasai beidio : " Nid oes neb yn dwyn fy einioes oddiarnaf." Ond y mae efe ei hun yn ei esbonio, " Yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid "—" Y cyfiawn dros yr anghyfiawn "—" Crist mewn pryd yn marw dros yr annuwioí"—Yn cymeryd ei ddal yn lle eraill; yn cymeryd ei euog farnu yn lle eraill; yn cymeryd ei groeshoelio yn Ue eraill! Mae y pedwar peth hyn yn gwneyd fod marwolaeth Crist yn aberth difai i Dduw, ac yn sylfaen diogel i bechadur bwyso am fywyd. Pency Glendinning. [PARHAD O'R RHIFYN 'DIWEDDAP.Ì Dtwbbài Pope, ar ol cyttuno i gyfieithu llyfr o'í ënw " Iliad," eî fod yn teimlo pan yn gorwedd yn ei wely, f«l pe byddai cortyn a.m Mehbfin, lŴftj o