Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Argraffiadau Boreunl. Mae y prydydd, y philosophydd, a'r duweinydd, wedi ymorcheôtu i ddangos pwysigrwydd argraffiadau boreuoi; ac er hyny y mae, nid yn unig yr anwybödus, y difeddwì, a'r cyhoeddus llygredig, ond y mae pobl sydd yn darllen llauer, ì'e rhai crefydcìol hefyd, yn ym- ddwyn yn fynychtuagat tu plantyn moreu eu hoes. fel pe na byadai y tymiBor hwnw yn gadael dim dylanwad ar nodweddiada chysur eu plant mewn blyneddau dvfodol. Mor aml y clywir mamau yn dyweyd, os bydd i ryw gyfaill ddadgan ofn niwed i'w plant oddiwrth gymdeithion neu lyfrau anweddus, " 0 y maent mor ieuainc, nid yw o bwys yn y byd, pan dyfant i fynu bydd yn haws cael ganddynt ddëaíl. Y mae yn ddigon buan eto, fe fyn plant fod yn blant^ &c." 0 na wiandawai y mamau difeddwl hynar ysgrifenydd hyawdl yn y ganrif ddiweddaf, " Y mae nodweddiad y rhan íwyaf o ddynion wedi ei ffurfio a'i sefydlu cyn y tybir fod ganddynt, neu y gall fod ganddynt, nodweddiad o gwbl. Mae Uawer yn ofer ddychymygu y gellir gwneyd fel y mynir â blyneddau cyntaf oes, y gellir yn hawdd ladd effeithiau ychydig o esgeulusdra, ac attal canlyn- iadau diofalwch boreuol. Y mae hyn yr un fath a dyweyd, Na achubwch y boreu, ond cysgwch a diogwch ef ymaith ychydig, ychydig o ymdrech ychwanegol amser ciniaw a uniona y cwbl—Y mae y gwanwyn wedi dychwelyd, y mae y blodau yn ymagor, daeth amser i'r adar ganu : ond na chyffrowch, y mae yn ddigon buan i feddwl am waithy gwanwyn: cenwch gyda'radar, neidiwch achwa- reuwch gyda'r ŵyn, ychydig o ddiwydrwydd ychwanegol ymhellach ymlaen yn y fiwyddyn a ddaw â phob peth o gwmpas, ac fe goronir y fiwyddyn â digonoldeb." Y mae y rheswm gwanaf yn gweled afres- ymoldeb hyn ; eto y mae ymddygiadau dynion yn dangos gweith- rediad cyffredinol yr afresymoldeb hwn. Teflir ymaith bîyneddau cyntaf yr oes fel amser diwerth, y mae y boreu yn cael ei golli, y mae amser hau yn cael ei esgeuluso, a pha beth yw y canlyniad ? Bywyd llawn o annhrefn, a henaint Uawn o ofid, diwrnod o lafur dianghenrhaid, a nos o siomedigaeth, haf ffwdanus,cynhauafteneu, a gauaf digysur. Mae ysgrifenydd enwog sydd yn fyw yn awr yn dyweyd, " O'r awr y mae y plentyn yn alluog i sylwi ar y pethau sydd yn cymeryd lle o'i amgylch, y mae yn derbyn argraffiadau oddiwrth esiampl ac amgylchiadau. Mor nerthol y mae y dylanwadau disylw a dystaw hyn, fel y gwelwn, nid yn anfynych, faban blwydd wedi ei wneyd trwy foethau yn ormeswr ar yr noll deulu ; a chyn bod yn (Mwy flwydd yn beth bach anfoddog, nes gwneyd i bawb ond ei fam droi oddiwrtho gydag anhoffder, yn yr ocdran hwn y mae y plentyn yn gwneyd sylwadau, yn ffurfio opiniynau ac arferion. Y mae syniadau cymhwys neu anghymhwys yn dechreu ffurfio ei nodweddiad, ac ni ddilëir hwynt byth. Gellir rhoddi llawer o esiamplau i ddangos fod y syniadau cyntaf a roddir i blentyn yn fynych yn gwneyd argr;iff ruor ddwfn, tel y maent yn penderfynu eu carictor. Cymerwch a gaBlyn yn un « Mai, 1848. " i