Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Cynllun Bodolaeth. Y mae wedi costio i mi lawer iawn o fyfyrdod a gofal, pa fodd i osod a sefydlu pobl o dati eu priodol enwedigaethau, aphafodd i'w trefnu yn ol eu gwahanol gymeriadau. Y mae yr y mdrechion yma o'r eiddof wedi eu derbyn gyda llwyddiant annysgwyliadwy ar un cyfrif, ond wedi eu hesgeuluso ar gyfrif arall; canys er fod genyf lawer o ddarllenwyr, nid oes genyí ond ychydig o ddychweledig- ion. Fod yr hyn a ysgrifenwyf wedi ei fwriadu er difyrwch, yn hytr- ach nag er argyhoeddi a dysgu, sydd dybiaeth hollol gyfeiliornus. Dechreuais fy ysgritìon gyda hysbysiad, yr ystyriwn ddynolryw mewn dull hollol wahanol i'r hyn y dangoswyd hwy o'r blaen i'r byd cyflredin ; a sicrheais, na chydnabyddid genyf fi ond bywyd defnyddiol yn fath yn y byd o fywyd. Ond rhag y dichon fod yr athrawiaeth yma wedi gwneyd oàn lleied o gynnydd, o herwydd y gallai ymddangos i'r annysgedig yn beth ysgafn a phenchwiban, cymeraf genad i ddadleu doethineb a hynafiaeth fy ngosodiad, sef "fod pob dyn di-ddaioni yn ddyn marw." Y mae y syniad yma càn hyned a Pythagoras, yn ysgol yr hwn yr ydoedd yn rheol ddysgyblol, os ceid yn mysg yr alcowsttlcoi,neu brofedigion, rai a fyddent yn blino ar fyfyrio i fod yn ddefnyddiol, ac yn myned yn dd'ioglyd, yr oeddynt i'w cyfrif fel rhai meirwon ; ac ar eu hymadawiad o'r ysgol, cyfiawnid eu defodau anghladdol, a chyfodid beddfeini ac argraffiadau arnynt, er rhybuddio eraill rhag y cyfry w farwolaeth, a'u cyffroi i ffurfio penderfyniadau, a diwyllio eu meddyliau uwchlaw y sefyllfa druenus hono. Oddiar yr un dybiaeth y mae merched ieuainc mewn gwledydd Pabaidd yn cael eu derbyn i rai lleiandai, â'u heirch i'w canlyn, a chyda rhwysg cynhebrwng ffugiol, i arwyddo na byddant o unrhyw ddefnydd o hyn allan, ac o ganlyniad yn feirw. Gellid rhoddi llawer yn rhagoi fel eglurhad ar yr athrawiaeth yma o awdurdod gysegredig, yr hyn a gymheliaf i fyfyrdod fy narllenydd, yr hwn a gofia yn rhwydd y dull grymus o gymhwyso y geiriau mano a hyw at ddynion, fel y maent naill ai yn ddrwg neu yn dda. £r ydwyf wedi flurfio y cynllun o fodolaeth a ganlyn er lles y byw a'r marw, er yn benaf er mAvyn yr olaf, y rhai yr wyf yn dy- ìnuno ar iddynt ei ddarllen gyda'r ystyriaeth fanylaf. Yr wyf yn rhoddi yn rlüf y meirw pawb, o ba radd neu uchafiaeth bynag, sydd yn treulio y rhan fwyaf o'u hamser mewn bwyta ac yfed, i'r dyben o gynnai y bodolaeth dychymygol hwnw o'r eidd- ynt, a alwant yn fywyd : neu mewn dilladu ac addurno y cysgodau a'r drychiolaethau hyny a gyfrifir gan y werinos yn feibion a merched gwirioneddoí. Yn fyr, pwy bynag sydd yn trigo yn y byd heb fod ganddo unrhyw orchwyl, ac yn treulio oes hygb erioed Ebrill, 1848.] * E