Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Cymdeiihas â Duw. Eit nad oes un plentyn yn nheulu Duw heb wybod pa beth ydyw cymdeithas wirioneddol â'r Tad ac â'i Fab Iesu Grist: eto, y mae araserau a mynydau hyfryd, pan mae cyradeithas mwy teimladwy rhwng yr enaid â Duw. Mae y byd anianol yn gwawdio hyn, a pha ryfedd, oblegid nid yw " dyn anianol ynderbyn y pothausydd o Ysbryd Duw, canys ífolineb yiynt ganddo ef." Gẁyr saint Duw mai nid dychymyg ydyw, a bod y mwynhad o hono yn nef- oedd ar y ddaear—gogoniant yn yr eginyn, a blaenbrawf o'u ded- wyddwch dyfodol. Onid ydyw eneidiau pobl Dduw yn cael eu had- fywio Aveithiau gyda'r fath amlygiadau o"i gariad, a'r fath brofiad o'r tangnefedd sydd uwchlawpob dëall, fel y maent yn dymuno am fwynhad tragywyddol a dirwystr o hono. A phan y mae y nefoedd megjs yn ymagor o'u blaen, ac yn caniatâu golwg iddynt ar ogon- iant y wlad well, fel y maent yn sathru ar bleserau, ac yn buddug- oliaethu ar orthrymderau y fuchedd bresennol! Mewn tri amgylcliiad neillduol y mae yr Arglwydd yn rhoddi ei gymdeithas mewn modd hynod i'w bobl. Yn gyntaf, o flaen cys- tudd, i'w parotoi i'w gyfarfod ; fel i Jacob yn y noswaith gofiadwy hono, pan oedd ei frawd digofus yn prysuro yn ei erlyn—ac i Paul, yr hwn a gafodd orchymyn gan angel i beidio ofni o flaen y Uong- ddrylliad, gan y byddai raid iddo sefyll ger bron Caesar. Yn nesaf, mewn profedigaeth, i'w nerthu i'w dal ; fel pan yr oedd Moses yn galaru o herwydd eilunaddoliaeth Israel, yna y llefarodd Duw wrtho wyneb yn wyneb, fel y llefarai gwr wrth ei gyfaill : ac a wnaethi'w holl ddaioni fyned heibio o flaen ei wyneb. Felly yr agorwyd y nefoedd i Stephan pan yn nghanol ei elynion, ac efe a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefvll ar ddeheulaw Duw. Ac yn drydedd, ar ol ynnYeliadau galarus a rhagluniaeth gofidus. Felly yr apostolion, ar ol eu dal, eu barnu, a'u bwgwth, a lanwyd mewn modd neiìlduol â'r Ysbryd Glan, tra yr oeddy lleyr oeddynt ynddo, fel arwydd o bresennoldeb Duw, yn cael ei ysgwyd, Tra y mae ei holl saint yn cael eu porthi ar ei draul ; eto, weith'au y maent yn cael eistedd yn ei bresennoldeb, a gwìedda gyda'r brenin. Ac mae y fath wledd yn gwneyd yr anialwch diffaith fel gardd Duw. Yn nerth ymborth nefol, yr hwn a roddir gan yr angel digrëedig, y mae yr enaid yn teithio i fynydd Duw. Nid y w cymdeith is â Duw, ac amlygiadau o'i gariad yn rhoddi hawl i dded- wyddwch, ond y maent eu hunain yn rhan o hono. Am hyny nid yw y cristion i adeiladu arnynt: ond y mae i ddysgwyl am gymeradwy- aeth yn nghyfiawnder Mab Duw ; fel nad yw bod y gwas yn caei ei borthi yn ei brofi yn fab, ond y mae y mab sydd yn aros yn y teuìu yn siér o ddigon, ac weithiau i gael ymddangos wrth y bw. dd. Ac os ydyw bywyd y sant tlotaf, yn fywyd angel mewn cyralinria.eth i fywyd y bydolddyn ; ac os ydyw bywyd y naill ssnt yn abagori cymaint ar fywyd sant arall, yn eu rhodiad agos at Bduw, (o -her- wydd yn ffurfafen gras y mae iui seren yn rhagori ar y llail mea?n Maweth, 1848.] D