Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. " Fy enaid a lŷn wrthyt." Mae yn bod amryw blanigion gweiniaid, megys y pŷs, yr eiddew, a'r gwinwydd, ag nas medrant ymgynnal arnynt eu hunain ; ond rhaid iddynt gael y priciau, y goeden, y mur, neu y graig, i ym- gynnal wrthynt. Cyffelyb yw dyn ; nis gall yntau sefyll arno ei hunan, ond y mae yn rhaid iddo wrth ryw wrthddrych o'r tuallan idáo ei hun i ymgynnal wrtho. Mae Duw hefyd wedi rhoddi yn y planigion gweiniaid ryw ddawn ac oti'er i ymaflyd mewn rhyw wrthddrychau eraill er ymgynnal wnhynt. Pwy ni sylwodd ar y crych edafedd a dŵf allan o goesau y pỳs ? a'r ofíerynau tebyg i goesau pryfed a welir ar hyd goesau yr eiddew a'r gwinwydd ] Dyben yr offer, y crychflagur hyn, ydyw, ymaflyd mewn gwrth- ddrychau eraill er ymgynnal wrthynt. Cyffelyb yn hyn hefyd ydyw dyn, mae wedi ei greu â rhyw duedd naturiol ynddo i ym- ìynu wrth rywbeth neu rywun. Ymlyna dyn wrth y peth gwaelaf cyn y ceisia fyw arno ei hunan. Bwrier ei fod wedi ei fwrw ar ryw ynys lle na byddai na choedydd na llysiau, nac unrhyw greadur byw; dim ond creigiau a thywod ; ond gwnai y dyn gyfeiÜion o'r creigiau, a'r cregin, a'r tywod, ac ymlyna wrthynt cyn y ceisia íyw arno ei hun, canys y mae ynddo duedd mor gref o naturiaeth i ymgynnal wrth ryw wrthddrych o'r tuallan iddo ei hun. A rhoddwyd y duedd hon ynddo yn ddiammhau o fwriad, fel y byddai iddi ei arwain i lynu wrth Graig yr oesoedd. Ond ynghylch hyny mae y camgymeriadau mawrion—sef pa wrthddrych y mae yn wiw glynu wrtho. Glyna un wrth ei berth- ynasau a'i gyfeillion. Ond camgymeriad yw hyn, nid ydyw ond cyffelyb fel pe byddai y naill wlyddyn pŷs yn glynu wrth y llall, ac felly y ddau ond odid a syrthiant i'r llawr. ün arall a geir yn glynu wrth ei gyfoeth. Camgymeriad mawr yw hyn; a chamsyniad yw hwn hefyd sydd yn un cyffredinol iawn. Yn ddíau y mae yn lladd ei filoedd. Nid yw cyfoeth yn alluog i ddigoni y nieddwl, a rhoddi i ysbryd dyn orpbwysdra, hyd yn nod yn y byd hwn. Ónd yn hytrach fel y dywedwyd am y diodydd meddwawl, " Ar ol yfed syched sydd." Felly y mae fel y gwyddis drwy brofiad mewn perthynas i gyfoeth. Y dyn, cyn iddo gael y pum punt cyntaf, yr oedd yn ddigon tawel a dedwydd heb ddim arian wrth ei gefn. Ond wedi cael un pump nid oedd esmwythedd iddo nes cael pump eraill atynt, i'w gwneyd yn ddeg. Ac wedi cael deg nid oedd gorphwysdra nes eu gwneyd yn ugain. Ac wedi hyny yr oedd eisieu gwneyd yr ugain yn han- ner cant; ac wedi hyny hefyd yr oedd raid gwneyd yr hanner yn gant crwn. Dyma wir hanes miloedd ; mae cyfoeth yn hollol an- nigonol i ddigoni y meddwl. Ac hefyd, pan fyddo marw y dyn, gwahenir ef a'i gyfoeth am byth oddiwrth eu gilydd. Mae i ddyn lynu wrth gyfoeth gan hyny yn debyg iawn fel pe planai un yr eiddew i dyfu o gwmpas caseg eira ; pan y cynheso yr hîn, a'r haul Chwepror, 1848.] * b