Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Y Flwyddyn Newydd. Dechreu ad blwyddyn newydd ! Ystyriaeth difrifol! Mae myn- ydau, ac oriau, wythnosau, a misoedd, blwyddyn arall wedi gwrthod ein cadw yn hwy, ac wedi ein trosglwyddo yn nes i'r cyfrif y bydd raid ei roi o honynt oll. Am aml un o'r rhai a ddarllenodd y rhifyn cyntaf o'n cyhoeddiad y fiwyddyn ddiweddaf, gellir dyweyd " ni chaed ef " i ddarllen yr olaf, " am ddarfod i Dduw ei symud ef;" ac nid gwirach hyny nag y gellir dyweyd am rai a wel y rhifyn hwn, "o fewn y flwyddyn hon y byddi farw." 0 fewn y flwyddyn hon y cyfnewidi amser am dragywyddoldeb—y dattodir dy berthynas â'r ddaear—y'th elwir o flaen gorseddfainc Duw : o fewn y flwyddyn hon y cei wybod y gwahaniaeth rhwng rhedeg dy lygaid dros y llythyrenau sydd yn gwneyd i fynu y geiriau angeu, barn, uffern, nefoedd, a'r hyn sydd yn rhoddi pwysau iddynt oll, nas gall ond ei hunan ei esbonio—tragywyddoldeb ; a bod yr hyna arwyddir wrth y geiriau yn dyfod adref i'r teimlad yn sylweddau byw. Ddarllenydd ! os y flwyddyn hon yr ysgrifenir ar ol dy enw di, " Ac efe a fu farw," nid oes un gotyniad mor bwysig nac mor bri- odol i ti ei wasgu at dy gydwybod a'r gofyniad. "A ydwyf yn barod, a oes genyf undeb â'r hwn a orchfygodd angeu—a ydwyf yn gyf- aill i'r Gwr a farn fy achos, ac a gyhoedda fy nedfryd—a ydwyf wedi credu yn yr hwn sydd ganddo agoriadau uflern a marw- olaeth ?" Ond os nad y flwyddyn hon y byddi farw, gan na wyddost hyny cyn iddi redeg allan, gan na wyddost nad y flwyddyn un mil wyth cant ac wyth-a-deugain fydd y nifer uchaf a roddi ar dy lyfrau, dy gyfrifon, a dy lythyrau—mae synwyr a chrefydd yn cyduno i waeddi mai y gofyniad cyntaf mewn trefn, a'r cyntaf mewn pẁys yw, "A ydwyf yn barod î" Pe byddai yn ansicr y cyfarfyddi ag angeu oll, doethineb fyddai ymbarotoi ar ei gyfer. Ni wnai dim ond sicrwydd na chyfarfyddi âg ef gyfìawnhau ymddygiad gwahanol. Pe hanner trigolion y byd fyddai yn marw ; pe un o bob dau, y gwr neu y wraig, y brawd neu y chwaer, pe bob yn ail deulu fyddai i ymddangos yn y farn, heb sicrwydd pa un nes i'r farn eistedd—gwallgofrwydd yn mhawb iyddai peidio rhagbarotoi, îe pe na byddai ond un beb oes, neu un bob canrif, yn myned i wae neu i wynfyd tragywyddol; onid doeth- ineb pawb fyddai bod yn barod, rhag mai efe fyddai yr un hwnw. Ond nid un o bob canrif, nac un o bob dau, ond " pob un drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw." Nid y rhieni, neu y plant, ond y rhieni a'r plant hefyd; nid y brawd neu y chwaer, ond y ddau. Nid oes ansicrwydd am y peth, ond yn unig am yr amser ; os nad y flwyddyn hon, y mae y flwyddyn Iwno gerllaw ; mae hon yn sicr i rai, mae hono yn sicr i bawb. Teimlad dwys o werth amser yn nechreu y flwyddyn sydd deìmlad hanfodol i'w ddefnyddio yn iawn. Mae lìawer yn teimlo gydîi IONAWR, 1848.] A