Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Sylwadau am Ddiwygiad. Mae diwygiad neu adfywiad ar grefydd yn cynnwys, yn un peth, gwneyd y duwiolion fyddo yn y lle yn dduwiolach. Eu dwyn ymlaen mewn gwybodaeth yn mhethau teyrnas nefoedd ; a'u dwyn i brofi a theimlo yn ol eu gwybodaeth yn fwy dwys. Eu codi i fod yn fwy nefolfrydig, ac yn feddiannol ar fwy o lawenydd a gorfoledd. Eu codi yn fwy i dôn geiriau felly, " Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, llawenhewch. Byddwch lawen yn wastadol. Yn yr hwn heb fod yr awr hon yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus." Yna, fel canlyniad naturiol i brofi mwy o lawenydd crefydd, daw ymlaen i fucheddu yn fwy sanctaidd. Nid oes un peth mwy effeithiol er dwyn y dyn i ymwrthod â mwyniant pechod, nag iddo brofi y gorfoledd sydd yn Nghrist Iesu. Wedi profi unwaith o'r gorfoledd hwn, mae yn barod i ganu yr hen bennill, " Ffarwel bell- ach hen bleserau," &c. Hefyd, canlyniad naturiol arall i brofi yn fwy helaeth o orfoledd yr iachawdwriaeth, fydd mwy o ymegnlad gyda gwaith Duw. Wedi unwaith y profo dyn y tangnefedd a'r gorfoledd hwn, ni bydd unpeth yn ormod ganddo wneyd dros Grist yn y canlyniad. Mae yn foddlawn i aberthu pob peth er mwyn Crist, yr hwn y profodd y fath orfoledd ynddo. Mae yn foddlawn rhoddi ei amser, a'i dalentau, os yn eu meddu, ei feddiannau, îe, a'i einioes hefyd, os bydd raid, i lawr yn ngwasanaeth ei Arglwydd Crist, yr hwn a roddodd yn ei galon y fath lawenydd. Hefyd mae mewn diwygiad, os bydd yn cyrhaedd y graddau hyny, droi pech- aduriaid ; a'u troi yn amlwg ; eu troi yn y fath fodd ag y byddo yn amlwg mai Duw fydd wedi eu troi. Os bydd teimlad yn yr eglwys, mae hyny yn argoel goleu fbd diwygiad gerllaw, os nad wedi dechreu. " Ti a gyfodi, ac a dru- garhei wrth Sion," ebe y Salmydd, " canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig a ddaeth." Pa fodd y gwyddai hyny ? " Oblegid mae dy weision yn hofii ei meini, ac yn tosturio wrth ei îlwch hi." Efallai ei fod wedi gweled rhyw Iuddewon duwiolfrydi^ yn Jerusalem yn edrych adfeilion y ddinas a'r deml: a bod y rhai hyny yn dangos teimlad dwys : ac yn eglur ddangos eu bod yn caru hyd yn nod y meini a fuasai gynt yn adeiladaeth y ddinas a'r deml. Nis gallent lai, tybygid, na'u cofíeidio a'u cusanu. Hefyd, ed- rychent ar y tyrau llwch ac adfeilion gyda chawodydd o ddagrau ; pa rai a ddangosent fod eu calonau o'u mewn yn fiynnonau o dost- uri, yn wyneb yr agwedd oedd ar Sion. Pa fodd bynag, gwybu y Síilmydd ryw fibrdd fod y duwiolion yn teimlo, ac o ganlyniad yr oedd yn egltur fod gwaredigaeth o flin gaethiwed Babilon wrth ydrws. Yn gyíFelyb y mae yn mhob oes, pan y gwelir pobl Dduw yn teimlo— pan y canfyddir y blodeuyn hwn, teimlad—yna gellir dadgan gerriau y Salmydd, fel math o ganiad côg, i hysbysu fod hâf yn agos. Òsbydd y duwiolion yn teimlo, byddant yn gweddiio ; ac os bydd y duwiolion wedi eu deffi'o i weddio am rywbeth, ebe Calvin, mae hyny cystal a 'Tachwedd, 1847.] v