Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH. Pechodauy Tafod. Hawdd fyddai traethu llawer am ryfeddodau a defnyddioldeb yr aelod bychan hwn; ondnid hyn yw ein hamcan presennol, eithryn hytrach dangos y modd y mae yn pechu, y drwg mawr sydd yn mhechodau y tafod, a chynnyg meddyginiaeth. Y mae holl aelodau y corff wedi eu troi i fod yn arfau anghyf- iawnder i bechod, ond efallai nad oes yr un aelod yn f wry gwasan- aethgar i bechod na 'r tafod; y mae y fath undeb rhyngddo â'r meddwl, a'r fath barodrwydd ynddo i weithredu, a gellir dyweyd yn ddibetrus ei fod yn pechu mwy na 'r holl aelodau eraill; y mae yn fynych yn rhoi yr oll o'r natur yn fflam, yn cyffro yr oll o'r dyn i fod ar ei eithaf mewn pechod. Y mae nodi y filfed ran o bechodau y tafod yn faes rhy ëang ; ond ni a nodwn ychydig o'r rhai sydd yn fwyaf cyffredin, megys, 1. Celwydd. Dyma y pechod cyntaf yn y byd, ac efallai ei fod hyd heddyw y cyntaf ag y mae dyn yn ei gyflawni; " o'r bru y cyf- eiliornodd y rhai annuwiol, gan ddy wedyd celwydd." Y celwyddwr cyntaf yw y diafol, am hyny y gelwir ef yn dad y celwydd, ac y mae pob celwyddwr yn tadogi yn dda ; mae yn profi trwy debygol- rwydd, ei berthynas â'r diafol: Ioan viii. 44. Fe sonir yn y Bibl am ddychymygu celwydá, llunio celwydd, asio celwydd, clytio cel- wydd, a thraethucelwydd; a brodyr, plant yr un tad, sydd yn gwneu- thur y naill a'r llall. Y mae y tafod yn traethu celwydd weithiau wrth brynu neu werthu, er mwyn elw, pryd arall i guddio bai, pryd arall o wir duedd at gelwydd, a phryd arall o falais yn llunio ac yn traethu celwydd ar un o wir elyniaeth tuag ato : ond nid yw celwydd yn gyfreithlawn mewn un amgylchiad; a phwy bynag a'i llunia, neu a'i traetha, y mae yn euog ger bron Duw. " Tyst cel- wyddog ni bydd d'ieuog ; a lluniwr celwyddau ni ddianc :" Dìar. xix. ö. A phwy bynag sydd yn rhydd i ddywedyd celwydd, y mae yn rhydd i wneuthur pob drwg, os meddylia y gall ei guddio à gwefusau celwyddog. 2. Enllibio, absenu, ac athrodi. Y mae y gair enttibio yn ar- wyddo rhoi drygair, gan gyhuddo. Y mae hwn yn un o enwau y diafol. Y mae y gair a gyfieithir absenu, medd Mr. Charles, yn ar- wyddo troed, troedio, olrìiain, canlyn, yspio ynddichettyar. Maeyr absenwryn yspîo troed ei gymydog i edrych a genfyddefynllithro mewn un lle, i'r dyben i gyhoeddi ei fai; y mae fel math © wibed nad ydynt byth yn syrthio ond ar fudreddi. Mae y gair athrodi yn arwyddo rhodio yn fasnachwr, ac yn fàn nwyfwr yn ngwaith ei gymydog. Pedlar y diafol yw, yn cario ei nwyfau o dŷ i dŷ ; ac i'r dyben o gael derbyniad i'w eiddo, y mae yn gwenieìthio â i wef- usau, ac yn cymeryd arno ei fod yn dra torcalonus o herwyddan- ffawd ei gymydog, neu y gwarth a roddo ar grefydd ; ond odid na rydd ochenaid drom, ynghyda llais wylofus, a phan y dealla ei fod wedi agor y ffordd, y mae yn dechreu dangos ei nwyfau. Y mae Eydref, 1847.] w