Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GETNIOGWERTH. Crefydd a Dysgeidiacth. Un o arwyddiou goreu a mwyaf gobeithiol cin dyddiau ni ydyw y galwad cynnyddol sydd am ysgolion, a llyfrau, a dysgeidiaeth. Ond pe gofynid i ni, Pa beth sydd wedi peri y cyffröad cyffredinol ? Pa beth ydyw y fantais a gysylltir gan y rhan fwyaf wrth yr ym- drechiadau a wneir i ateb y galwadau, ac i ddiwallu y syehed hwn? Oni atebem yn gywir pe dywedem, mai y manteieion bydol, y man- teision i amgylcniadau a sefyllfàoedd dynionydyw y prif ysgogydd. Mae darganfyddiadau peiriannol ein hoes, a medr dynion i ddaros-. twng elfenau y grëadigaeth i'w dybenion eu hunain, i wneuthur gweision o'r gwynt a'r gwlaw, yr agerdd a'r mellt, wedi darostwng gwerth llafur gewynau ac esgyrn dynion, ac wedi codi gwerth y dëall, y meddwl, yr ysbryd. Nid y fraich gryfaf na'r troed cyf- lymaf sydd 1 arwain bellach i gyfoeth ac anrhydedd ; ond y dëall eyflymaf, a'r meddwl mwyaf diwylliedig. Mae hyn mor agos atom, ac mor hawdd ei ganfod, fel nad oes berygl i lawer ei gam- gymeryd ; a chanfyddiad a theimlad o hyn, sydd, i'n tyb ni, wedi peri y cyffröad dymunol a welir yn y wlad. A ydym yn beio hyn ì Nac ydym mewn un modd. Nid oes neb yn dymuno yn fwy na ni i weled cin gwlad yn cynnyddu mewn cysuron bywyd, ac mewn dyrchafiad bydol, a hyny yn y lle cyntaf er ei fwyn ei hun ; ond yn y llc nesaf, ac yn benaf, er mwyn y manteision a'r cyüeusderau ychwanegol a roddai hyny i'n cenedl i feithrin llëen- yddiaeth cyffredinol, a chelfyddyd ; ond yn enwedig, ac uwchlaw y cwbl, gwybodaeth ëang a manwl o air Duw yn ei ieithoedd cyn- tefìg, a hyny mewn trefn i fyned gam yn nes at ffynnonell y dad- guddiad sanctaidd, ac felly i gymdeithasu â Duw yn ei air trwy gyfrwng yr ieithoedd a gysegrwyd ganddo ef ei hun. Mae ystyriaeth o'r fantais dymmorol sydd yn nglýn â dysgeid- iaeth yn annogaeth resymol ac yn gymhelliad cyfreithlawn i ym- cstyn ymlaen ; a'r unig gymhelliad sydd â dim grym ynddo gyda'r cyffredin o ddynion, ac yn wir gyda phob dyn nes y cyfyd uwch- law y cyffredin : ond ni a fynem i'n darllenwyr wybod a theimlo mai y cymhelliadau iselaf ydyw y rhai hyn—eu bod o'r ddaear yn ddaearol. Nid oes ynddynt ond ychydig o barch i wir deilyngdod gwybodaeth, na bron ddim cydnabyddiaeth o hawliau gwirionedd : ac am yr enaid a grewyd i ymgodi uwchlaw y byd presennol at bethau anweledig a thragywyddol, darostyngir ef i fod yn was i'r corff a'i gysuron darfodedig. Gan ein bod fel cenedl wedi deftrò mor ddiweddar i werth gwybodaeth, nid ydym yn beio nac yn rhy- fcddu mai fel llawforwyn cysuron bywyd y mae hi Avedi cacì y fath dderbyniad yn ein mysg; ond yn hytrach, yr ydyni yn diolch ei bod wedi cael croesaw, er mai yn y swydd isel o barotoi bechgyn Cymru i ddefnyddio galwedigaethau a marchnadoedd y byd i well mantais. Ond nid ydym am i'n darllcnwyr aughofio, os bydd myn- ych grybwylliad a chyfeiriad yn foddion i'w gadw o flaen ein medd- [Ebhill, 1847.] b