Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWEHTH. Cyfeillachau Anghrefyddol. Mab yr Ysgrythyrau, yr unig rëol anffaeledig i ba bethau bynag sydd bur, i ba bethau bynag sydd hawddgar, i ba bethau bynag sydd ganmoladwy, yn darlunio cyfeillachau a phriodasau duwiolion âg annuwiolion, fel ffynnonell y drygau mwyaf. Hyn a ddesgrifir fel yr achos o'r llygredigaeth cyffredinol, o herwydd pa un y bodd- wyd y byd. Ar ol i'r byd gael ei ail boblogi, yr oedd yr un achos, inewn cylchoedd llai, yn dwyn oddiamgylch effeithiau mor niweid- iol. Pa beth a barodd i rai o ferched Lot ddiystyru rhybudd yr Arglwydd i ffoi o Sodom ? Yr oeddent wedi ymbrîodi â rhai o'i phreswylwyr halogedig. Pa beth a barodd ffiaidd anlladrwydd y rhai a ddiangodd í Yr oeddent wedi cymdeithasu gormod â'r So- domiaid. Yr oedd cyfeillachu â'r rhai nid adwaenent Dduw yn cael ei wahardd i'r Israeliaid, o herwydd ei ganlyniadau niweid- iol. Ac mor sicr ag y bygythiwyd hwynt â barn Duw am anufudd- dod, y cyflawnwyd y bygythiad ar yr anufudd. " Ymgedwch, gan hyny, yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw. Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddiíl y cenedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwy- thau atoch chwithau: gan wybod gwybyddwch, na ỳr yr Ar - glwydd eich Duw y cenedloedd hyn mwyach allan o'ch blaen chwi ; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich Uygaid, nes eich difa chwi allau o'r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi f Jos. xxiii. 11—13. Dirmygodd Israel y rhybudd hwn, ac yn fuan teimlasant ddigllonedd yr Arglwydd yn llidio yn eu herbyn: Barji. iii. Ö—8. Fel yr oedd y cenedloedd annuwiol yn tynu Israel oddi- wrth addoliad a gwasanaeth y gwir Dduw, ac yn eu hennill i gym- eryd duwiau dyeithr, felly yn mhob oes y mae pobl proffesedig yr Arglwydd, trwy ymgymysgu â'r cyfryw, yn cael eù temtio i adael Duw, ac i gymeryd rhyw eilun yn ei le. Trwy gyfeillachu â'r rhai annuwiol, dichon i'r rhai mwyaf dysglaer gyda chrefydd gael eu hamddifadu o'u grym i fyw i Dduw, ac o'r cysuron pur a fwynhêir trwy hyny. Mae Solomon, y doethaf o ddynion, yr hwn a dderbyn- iodd gymaint o ffafr Duw, yr hwn oedd unwaith mor ymroddedig i'w wasanaeth a'i ogoniant, wedi gwrthgilio, wedi ynfydu mewn eilunaddoliaeth, wedi myned i addoli ffieidd-dra y paganiaid—" ei wragedd a droisant ei galon ar ol duwiau dyeithr." Mae Nehemiah, wrth annog y bobl i ymgadw oddiwrth y pechod o ymbriodi â'r cenedloedd, yn rhoi esiampl Solomon o'u blaen ; " Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon breninlsrael 1 er na bu brenin cyffelyb iddo ef yn mysg cenedloedd lawer, yr hwn oedd hoffgan ei Dduw, a Duw a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dyeithr a wnaethaut iddo ef bechu :" Neh. xiii. 26. Mae lle i feddwl fod Soìounon unwaith yn enwog mewn duwioldeb : ond er i'w haul godi roewn gogopiant a phrvdferthwch, raachludodd mewn cymylau. Dechrcuodd »i wrth- Mawbib, 1847.] c