Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEINIOGWERTH Gwna â'th holl egni. Wutü ddarllen hanes Iesu Grist, y mae yn anmhosibl i ni beidio sylwi ar y difrifweh nodedig oedd yn perthyniddo: yr oedd o ddifrif gyda phob peth. Gwelir hyn yn ei ym- ddyddanion gyd â'i ddysgyblion, yn ei gyfarchiadau neill- duol iddynt, yn gystal ag yn ei weinidogaeth gyhoeddus. Y mae y geiriau cyntaf o'i eiddo sydd genym ar gof, yn dangos fel yr osdd ei holl enaid yn y gwaith oedd wedi gymeryd fel pwrpas mawr ei fywyd.—" Oni wyddoch fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad ?" Ymaeei bregeth ar y mynydd, a'i holl bregethau, yn Ilawn o'r un difrifwch. Týn ymaith oddiwrth grefydd bob gwag- seremoniau a defodau ffugiol y gwisgid hi ynddynt gan grefyddwyr yr oes, a dengys hi fel ymwneyd noeth rhwng calon dyn a Duw; gesyd y ddeddf allan yn ei hysbrýdol- rwydd, fel y mae yn gofyn, nid yn unig gyd-ymffurfíad â hi o ran y weithred allanol, ond fel y mae yn cyrhaedd y galon, yn cymeryd sylw o'r myfyrdodau, yn gwylied y dyn oddimewn. Dengys fod gwasanaeth i Dduw yn dibynu, nid ar agwcddiad allanol a ffurflau, ond ar gynmndeb rhwng y meddwl a Duw; " Pan weádiech, dos i'th ystafell, eau dy ddrws,—ymâd â phob gwrthddrych sylweddol all dynu dy sylw, ystyria dy hun yn unig yn ngwyddfod Duw—A gweddia ar dy Dad, &c. Pan ymprydiech, gwna yn y fath fodd nad ymddangosech i ddynion, ond i Dduw. Annoga ei wrandawyr i oleuo, i halltu y byd; i geisioyn gyntaf deyrnas Duw, &e. Dyma ddifrifwchgydachrefydd a'i gwasanaeth ag yr oedd crefyddwyr yr oes yn amddifad o unrhyw ddirnadaeth am dano, ac nid rhyfedd fod " y torfeydd yn synu wrth ei ddysgeidiaeth, canys yr oedd Efe yn eu dysgu fel un âg awdurdod ganddo." Cynlíun perffaith oedd Iesu Grist o'r hyn a ddylai dyn fod, yn yr ystyr yma, fel yn mhob ystyr arall. Dywed y Pregethwr, mewn un rhan o'i lyfr, "Pa bethbynag